Mae rhif 10 Stryd Downing wedi mynnu bod prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn broblem tu hwnt i’r Deyrnas Unedig.
Mae arweinwyr Y Gymdeithas Cludo ar Ffyrdd wedi rhybuddio bod prinder o tua 100,000 o yrwyr.
Yn sgil yr argyfwng diweddar, mae sawl un wedi beio Brexit, gan honni bod llawer o yrwyr o’r Undeb Ewropeaidd wedi dychwelyd adref.
Mae arweinwyr y diwydiant ymysg y rhai sydd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i lacio rheolau mewnfudo i leddfu’r argyfwng.
Fe ddywedodd Tony Danker, cyfarwyddwr cyffredinol Conffederasiwn Diwydiant Prydain, bod yr heriau i’r economi yn ymestyn tu hwnt i ddiffyg gyrwyr loriau.
Ymateb Rhif 10
Yn dilyn y pwysau ychwanegol ar y Llywodraeth i weithredu, mynnodd llefarydd ar ran rhif 10 nad Brexit oedd yn gyfrifol am yr argyfwng.
“Dydy hyn yn broblem sydd ddim yn unigryw i’r wlad hon,” meddai.
“Caiff hyn effaith ar wledydd ar hyd Ewrop.
“Mae pandemig y coronafeirws wedi gwaethygu’r broblem hefyd.”
Cyfeiriodd at adroddiadau a oedd yn awgrymu bod prinder o 400,000 o weithwyr ar dir mawr Ewrop.
Fe ychwanegodd hefyd bod y Llywodraeth yn “cyflwyno mesurau” i recriwtio mwy o yrwyr, yn cynnwys “cyflymu’r broses i yrwyr newydd gael trwydded HGV, cynyddu capasiti am brofion gyrru HGV, a gweithio gyda’r diwydiant wrth iddyn nhw gymryd eu camau eu hunain.”
Fe wnaeth y DVSA ddweud ym mis Awst eu bod nhw’n gobeithio recriwtio 40 arholwr gyrru ychwanegol i helpu i liniaru’r prinder.
Maen nhw hefyd wedi cynyddu’r nifer o brofion gyrru galwedigaethol o 2,000 yr wythnos cyn y pandemig i 3,000, gyda rhai arholwyr yn gorfod gweithio dros amser.
-
Gallwch ddarllen rhai o straeon blaenorol ‘Golwg’ a ‘Golwg360′ am y sefyllfa, isod.