“Mae 98% o bopeth rydan ni’n ei ddefnyddio yn cyrraedd ar gefn tryc ar ryw bwynt ac mae ganddon ni broblem ddifrifol o ran prinder gyrwyr cerbydau trwm.”

Dyna gri Rhys Williams, Rheolwr Gweithrediadau’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd [Road Haulage Association] yng Nghymru.

Ar lefel Brydeinig rydan ni’n fyr o bron i 100,000 o yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm [HGV] eglura.