Bydd Cymru’n gallu galw ar gefnogaeth gan ei chymuned De Asia pan fydd grŵp newydd o gefnogwyr yn mynychu gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Estonia ddydd Mercher (8 Medi).

Mae Amar Cymru wedi cael ei lansio i roi llais i gefnogwyr Cymru o’r gymuned De Asia, gyda’r grŵp yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Jalal Goni ffurfiodd ‘Amar Cymru’ – sy’n golygu ‘Fy Nghymru’ – a dywedodd: “Gwelais faner cydraddoldeb Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn gêm am gael grwpiau ethnig cenedlaethol i gefnogi Cymru.

“Roeddech chi wedi gweld dotiau o gwmpas y stadiwm, ond dim digon pan rydych chi’n ystyried bod Caerdydd, Abertawe a Wrecsam yn ddinasoedd amlddiwylliannol.

“Cawsom ymgynghoriadau gyda phobol o dreftadaeth De Asia i weld a oedd y diddordeb yno i wylio Cymru ac roedd yn amlwg bod yno ddiddordeb.

“Roedd pobol yn awyddus i fod yn rhan ohono ar ôl Ewro 2016, roedden nhw’n gallu gweld cynnydd Cymru gyda chwaraewyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey ac eisiau bod yn rhan ohono.

“Fe fyddech chi’n gweld pobol o gymuned De Asia yn gwisgo crysau Cymru ar y strydoedd ond doedden nhw ddim mynd i’r stadiwm i wylio’r tîm.

“Doedd y diogelwch ddim yno yn yr hen ddyddiau ac roedd y stigma o gam-drin a ddioddefodd rhai cefnogwyr wedi aros gyda nhw.”

‘Nid eich anthem chi yw hi’

Mae Jalal Goni, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn dweud bod ganddo ei brofiad poenus ei hun o wylio Cymru fel cefnogwr yn ei arddegau.

“Rwy’n cofio mynd i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer gêm yn erbyn yr Eidal yn 2002 a chanu’r anthem genedlaethol,” meddai.

“Dywedwyd wrthyf am eistedd i lawr gan gefnogwr ‘oherwydd nid eich anthem chi yw hi’.

“Roeddwn i’n falch bod pobol o’m cwmpas wedi cwyno arno am ddweud hynny, ond roeddwn i dal wedi cael fy mrifo gan y sylw hwnnw oherwydd fy mod yn teimlo’n Gymreig yn gyntaf, a Bangladeshaidd yn ail.

“Rydych chi’n dweud wrth eich hun mai dim ond un person cul ei feddwl yw e, ond fyddech chi byth yn dweud wrth eich rhieni am hynny oherwydd eich bod chi’n gwybod na fydden nhw byth yn gadael i chi fynd i wylio Cymru’n chwarae eto.”

Bu aelodau Amar Cymru yn cyfarfod mewn bwyty yng Nghaerdydd i wylio Cymru’n cystadlu yn Ewro 2020 pan lansiwyd y grŵp ym mis Mehefin.

Ond gêm Estonia fydd y tro cyntaf i’r grwp, a nifer o’r cefnogwyr o dras De Asia, fynd i’r stadiwm i wylio Cymru.

“Ein diwylliant ni yw dydyn ni ddim yn mynd i dafarndai, ond roedd gennym ni 38 o bobl mewn bwyty ar gyfer gêm Cymru yn yr Ewros,” meddai Jalal Goni.

“Gallwn adeiladu ein diwylliant gan ddangos ein cefnogaeth i Gymru yn ein ffordd ein hunain.

“Rydym wedi creu grŵp WhatsApp i anfon negeseuon at gefnogwyr ac rydym am gael mwy o fenywod yn dod.

“Ein gobaith yw, os bydd un cefnogwr newydd yn y stadiwm yn mwynhau’r profiad yna mae’n debyg y bydd yn mynd yn ôl ac yn dweud wrth 10 o bobol yn y gymuned am ba mor dda oedd hi yno!”