Mae Joe Rodon wedi ailymuno â charfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Estonia.
Roedd yr amddiffynnwr canol allan o’r garfan yn wreiddiol oherwydd anaf, sy’n golygu nad yw e wedi chwarae i Spurs eto y tymor yma.
Ei gêm gystadleuol ddiwethaf, felly, oedd y golled yn erbyn Denmarc yn Ewro 2020.
Mae’r gŵr 23 oed wedi ennill 18 cap dros y tîm cenedlaethol ers ymddangos gyntaf yn 2019.
Yn ôl datganiad gan Gymdeithas Bel-droed Cymru, “yn dilyn gwelliant llwyr, mae Joe Rodon wedi ymuno â’r garfan yng Nghaerdydd.”
Bydd cyfres o’r enwau mawr ar gael eto ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Estonia ddydd Mercher, wedi llawer o absenoldebau yn y fuddugoliaeth hwyr dros Belarws.
Mae Ethan Ampadu, Brandon Cooper a Tyler Roberts yn dychwelyd ar ôl iddyn nhw fethu â chael fisa ar gyfer y gêm oddi cartref yn Kazan yn Rwsia.
Bydd Harry Wilson hefyd yn dychwelyd ar ôl iddo gael ei wahardd am gerdyn coch yn erbyn Denmarc yn Ewro 2020.