Mae Robert Page wedi dweud ei fod yn “falch iawn” o Daniel James am y ffordd y mae wedi ymdopi gyda symud o Manchester United i Leeds.

Mae James wedi cael wythnos brysur ar ôl symud o Old Trafford am Elland Road mewn trosglwyddiad gwerth £25m, cyn ymuno â charfan Cymru ar gyfer eu gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Belarws.

Ond cafodd ddylanwad mawr ar y gêm gan basio’r bêl i Gareth Bale cyn i hwnnw rwydo i ennill y gêm i Gymru gyda munudau’n weddill.

“Mae’n dal yn fachgen ifanc, DJ,” meddai Page am y gŵr 23 oed.

“Mae wedi gorfod delio gyda lot dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.

“Mae wedi mynd i glwb mor enfawr â Manchester United ac yna ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo, gorfod aros ar ôl a threfnu trosglwyddiad i glwb mawr arall yn Leeds.

“Mae llawer wedi digwydd – sydd wedi ei flino’n emosiynol yn ogystal â chorfforol.

“Felly iddo fynd a rhoi perfformiad cystal ag y gwnaeth, dwi’n falch iawn ohono fo.”

Roedd hi’n anodd i wibiwr fel James yn erbyn Belarus, gan fod swyddogion Belarws wedi gwrthod dyfrio’r cae cyn y gêm.

“Doedd o ddim yn gae i asgellwr. Doedd DJ methu defnyddio’i gyflymder i wibio heibio amddiffynwyr, fel y byddai ar gae gwlyb.

“Roedd yn rhwystredig gyda’r cae oherwydd bod y bêl yn dueddol o fynd yn sownd o dan ei draed.

“Ond y tro nesaf y byddwn ni’n chwarae bydd dŵr ar y cae – heb os nac oni bai!”

Mae Cymru saith pwynt y tu ôl i arweinwyr y grŵp, sef Gwlad Belg, gyda dwy gêm mewn llaw.

Curodd Gwlad Belg y Weriniaeth Tsiec 3-0 nos Sul (5 Medi) i gynnal eu record ddiguro.

Mae’r Weriniaeth Tsiec un pwynt ar y blaen i Gymru, ar ôl chwarae dwy gêm yn fwy.

Joe Rodon yn dychwelyd i garfan Cymru

Roedd yr amddiffynnwr canol wedi bod allan ers dechrau’r tymor gydag anaf