Mae’r Cymro Daniel James wedi ymuno â Leeds o Manchester United, fwy na dwy flynedd ar ôl i’w drosglwyddiad cyntaf yno ar fenthyg gael ei ganslo gan Abertawe ar yr unfed awr ar ddeg.

Mae lle i gredu bod Leeds wedi talu £25m am yr asgellwr a blaenwr.

Ac yntau’n 23 oed ac wedi dechrau dwy allan o dair gêm yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, mae James wedi llofnodi cytundeb pum mlynedd.

Fe fu’r rheolwr Marcelo Bielsa yn ffan mawr ohono ers tro ac adeg yr helynt pan oedd e yn Abertawe, fe ddaeth i’r amlwg fod gan y clwb ffeil ar eu cyfrifiadur oedd yn mesur ei berfformiadau.

Ond fe ymunodd e â Manchester United yn ystod haf 2019 am oddeutu £15m.

Sgoriodd e naw gôl mewn 74 o gemau, ac fe ddaeth ei gôl olaf yn erbyn Wolves ddydd Sul (Awst 29).

Ond gyda Cristiano Ronaldo bellach yn ôl yn Old Trafford, roedd James yn wynebu cyfnod ansicr.

Mae e wedi ennill 24 o gapiau dros Gymru, ac mae e wedi’i gynnwys yn y garfan ar gyfer y gemau sydd i ddod dros yr wythnosau nesaf.

Bydd e’n gwisgo crys rhif 20 yn Elland Road.