Mae tîm criced Morgannwg yn wynebu crasfa gan Essex yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw orffen ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth ar 71 am chwech yn eu hail fatiad – 115 o rediadau y tu ôl i’r ymwelwyr.

Dyma’r ail waith mewn dau fatiad a dau ddiwrnod i Essex gosbi batwyr Morgannwg, ar ôl iddyn nhw adeiladu blaenoriaeth batiad cyntaf swmpus.

134 oedd sgôr Morgannwg yn eu batiad cyntaf, ac ar ôl bowlio Essex allan yn y pen draw am 320, maen nhw’n wynebu colli’r ornest o fewn tri diwrnod.

Yr ail ddiwrnod

Dechreuodd Essex yr ail ddiwrnod ar 92 am ddwy, 42 rhediad yn unig y tu ôl i gyfanswm Morgannwg, ond fe gollon nhw Dan Lawrence yn ystod yr awr gyntaf wrth iddo fe gael ei ddal gan Timm van der Gugten oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter am 34.

Aeth Nick Browne yn ei flaen i sgorio’i ganred cynta’r tymor hwn, gyda Michael Pepper yn ei gefnogi mewn partneriaeth o 108 am y bedwaredd wiced.

Cyrhaeddodd Pepper ei hanner canred cyn i Browne gyrraedd ei ganred cyn cinio oddi ar 219 o belenni.

Bedair pelen yn unig barodd e wedyn, wrth iddo fe gael ei ddal gan Dan Douthwaite oddi ar fowlio’r troellwr Steven Reingold, oedd wedi cipio tair wiced am 15 mewn chwe phelawd.

Roedd Josh Rymell allan heb sgorio yn ei fatiad cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf i’r sir, wrth i Dan Douthwaite daro’i goes o flaen y wiced.

Roedd gan Essex flaenoriaeth o 83 erbyn amser cinio, ond collon nhw ddwy wiced gynnar yn y prynhawn, wrth i Pepper gael ei ddal gan Reingold oddi ar ei fowlio’i hun, ar ôl taro 11 pedwar ac un chwech wrth gyrraedd 63, cyn i Simon Harmer gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar yr un bowliwr bedair pelawd yn ddiweddarach.

Ychwanegodd Adam Wheater a Shane Snater 79 am y seithfed wiced cyn i Wheater gael ei fowlio gan Michael Hogan am 39, gan gynnwys saith ergyd i’r ffin, ac fe gyrhaeddodd Snater 48, ei sgôr gorau erioed, cyn cael ei ddal gan van der Gugten oddi ar fowlio Andrew Salter, gyda Sam Cook hefyd allan ar yr un sgôr wrth i Lukas Carey daro’i goes o flaen y wiced.

Ail fatiad Morgannwg

O fewn dim o dro, roedd Morgannwg wedi llithro i 20 am bump wrth i Sam Cook a Jamie Porter rwygo trwy brif fatwyr y tîm cartref.

Roedd Hamish Rutherford, David Lloyd, Steven Reingold, Billy Root a Kiran Carlson i gyd yn ôl yn y pafiliwn o fewn wyth pelawd, gyda Cook a Porter yn cipio dwy wiced yr un y naill ochr i Reingold yn cael ei redeg allan.

Roedd Morgannwg yn 29 am chwech pan darodd Snater goes Douthwaite o flaen y wiced – 14 rhediad yn brin o’u sgôr gwaethaf erioed yn erbyn Essex, a hwnnw’n dod yng Nghastell-nedd yn 1935.

Ond tarodd y capten Chris Cooke yn ôl gyda sgôr o 39 er mwyn osgoi ychydig o embaras, wrth iddo fe adeiladu partneriaeth ddi-guro o 42 gyda Salter am y seithfed wiced.

Essex yn cosbi Morgannwg yng Nghaerdydd

Yr ymwelwyr yn 92 am ddwy ar ôl bowlio’r tîm cartref allan am 134 ar y diwrnod cyntaf