Mae tîm criced Morgannwg eisoes dan bwysau ar ddiwedd diwrnod cyntaf eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Essex yng Nghaerdydd.

Wythnosau’n unig ar ôl colli yn erbyn Morgannwg yn rownd gyn-derfynol Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd enillodd Morgannwg, mae Essex yn 92 am ddwy wrth ymateb i 134 Morgannwg yn eu batiad cyntaf.

Erbyn amser cinio, roedd Morgannwg eisoes yn 59 am chwech ac yn wynebu crasfa unwaith yn rhagor, ac fe wnaeth Dan Lawrence (29 heb fod allan), batiwr rhyngwladol Lloegr, eu cosbi nhw ymhellach mewn partneriaeth o 51 am y drydedd wiced gyda Nick Browne (50 heb fod allan).

Alastair Cook, cyn-gapten Lloegr, a Tom Westley yw’r ddau fatiwr sydd allan eisoes, y ddau wedi’u dal gan y wicedwr a chapten Chris Cooke, y naill oddi ar fowlio Lukas Carey a’r llall oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Dim ond 42 rhediad oedd yn gwahanu’r timau pan adawon nhw’r cae ychydig yn gynnar oherwydd golau gwael.

Batiad cyntaf siomedig Morgannwg

Galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu batio ond roedden nhw’n difaru’r penderfyniad o fewn dim o dro.

Saith munud a phedair pelen yn unig barodd David Lloyd wrth ddychwelyd o’r Can Pelen, ac fe gafodd ei ddal yn y slip gan Simon Harmer oddi ar fowlio Sam Cook.

Daeth Steve Reingold i’r llain am y tro cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf ac roedd Morgannwg yn weddol gyfforddus yn 39 am un, ond fe wnaeth y rhod droi o fewn dim o dro.

Daeth Shane Snater i fowlio, gan gipio chwe wiced am 39 mewn 11.5 o belawdau wrth i Forgannwg chwalu.

Cafodd Reingold ei ddal yn y slip gan Harmer cyn i’r bowliwr daro coes Billy Root o flaen y wiced yn ei belawd ganlynol i adael Morgannwg yn 39 am dair.

Fe gafodd e wared Kiran Carlson a Chris Cooke yn yr un belawd, y naill wedi’i ddal gan Cook a’r llall wedi’i fowlio, ac roedd y tîm cartre’n 55 am bump.

Ond roedd gwaeth i ddod wrth i Hamish Rutherford ddarganfod dwylo diogel Michael Pepper oedd yn maesu’n agos at y bat, ac roedd y batiwr allan am 31 ar ôl cynnig rhywfaint o obaith i Forgannwg.

Aeth pethau o ddrwg i waeth eto ar ôl cinio, wrth i Andrew Salter gynnig daliad syml i Dan Lawrence wrth yrru’n syth ar ochr y goes oddi ar fowlio Harmer.

Ychwanegodd Dan Douthwaite a Lukas Carey 46 am y nawfed wiced, gyda Douthwaite yn taro wyth ergyd i’r ffin i gyrraedd 39 ond roedd Douthwaite allan wedi’i ddal gan Jamie Porter a Carey wedi’i ddal gan Harmer wrth i Snater gipio dwy wiced arall.

  • Ar ôl bod yn gapten ar dîm buddugol Morgannwg yng Nghwpan Royal London, derbyniodd Kiran Carlson ei gap sirol heddiw.