Cafodd Wrecsam a Notts County gêm gyfartal a ddifyrodd y dorf ar y Cae Ras llawn neithiwr.

Kyle Wootton a sgoriodd gyntaf i’r ymwelwyr gyda pheniad gwych yn erbyn rhediad y chwarae ar ôl i Wrecsam reoli’r gêm am gyfnodau hir.

Ond nid oedden nhw yn medru cymeryd mantais o’u cyfleon.

Sgoriodd ymosodwr Wrecsam Paul Mullin a’i ben hefyd ar ôl symudiad gwych yn fuan wedi’r egwyl.

Ond cefnogwyr Notts County aeth adref yr hapusaf – yn enwedig ar ôl i’r dyfarnwr ddweud fod James Jones wedi camochri wrth iddo sgorio gôl wych i Wrecsam.

Ardderchog

Mae Wrecsam nawr yn wythfed gyda gwahaniaeth goliau yn eu gwahanu nhw a County sy’n seithfed,

Wedi’r gêm, dywedodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson: “Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n ardderchog yn yr hanner cyntaf ac roedd dod mewn 1-0 i lawr yn ergyd wirioneddol i ni – roedden ni wedi dominyddu’r gêm am gyfnodau hir.

“Doedden ni ddim yn gallu cael y foment honno roedden ni’n ei haeddu ond yr hyn oedd yn bwysig oedd ein bod ni wedi ymateb yn iawn yr ail hanner, dod allan a chael y gôl yn ôl.

“Ond mae’r perfformiad yn rhoi calon fawr i mi wrth i ni fynd ymlaen i’r tymor, oherwydd mae pob gêm sydd gennym yn well ac yn well a heno roedd llawer o berfformiadau da iawn.”