Mae achos o Covid-10 wedi’i gadarnhau ymysg carfan tîm pêl-droed Cymru.

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau bod Adam Davies, golwr gyda Stoke City, wedi profi’n bositif am Covid-19, ac y bydd rhaid iddo hunanynysu am ddeng niwrnod.

Bydd yn methu tair gêm Cymru yn erbyn y Ffindir, Belarws ac Estonia.

Mae Tom King, sy’n chwareae i Salford City, wedi cael ei alw i’r garfan yn ei le, a bydd yn teithio i Helsinki gyda gweddill y garfan brynhawn heddiw (31 Awst).

Anafiadau

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gymdeithas Bêl-droed yn gweithio i weld a oes unrhyw gysylltiadau agos ag Adam Davies o fewn y garfan.

“Ar ôl trafod gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ers i’r prawf ddod yn ôl yn bositif, bydd Adam yn hunanynysu am ddeng niwrnod ac felly yn methu tair gêm nesaf Cymru,” meddai’r Gymdeithas Bêl-droed.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio er mwyn gweld a oes yna unrhyw gysylltiadau agos o fewn y garfan a bydd diweddariad yn y man.”

Daw hyn wedi i nifer o newidiadau orfod cael eu gwneud i’r garfan ddoe, gydag Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas a Neco Williams allan oherwydd anafiadau, ac Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper wedi methu cael visas i deithio i Rwsia mewn pryd.

Mae Mark Harris, Josh Sheehan a Ben Woodburn wedi’u dewis yn lle’r pedwar sydd ag anafiadau.

Crys coch, a logo'r Gymdeithas Bel-droed ar y frest

Cymru’n cyhoeddi sawl newid i’r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn y Ffindir, Belarws ac Estonia

Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas a Neco Williams wedi’u hanafu, ac Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper yn methu teithio