Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod pedwar chwaraewr wedi tynnu’n ôl o’r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn y Ffindir, Belarws ac Estonia.

Mae Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas a Neco Williams wedi’u hanafu, ac mae Brandon Cooper, Mark Harris, Josh Sheehan a Ben Woodburn wedi’u dewis yn eu lle.

Dydy Ethan Ampadu, Tyler Roberts na Brandon Cooper yn gallu teithio i Rwsia ar gyfer y gêm yn erbyn Belarws oherwydd problemau’n ymwneud â fisa i deithio o Rwsia i’r Ffindir.

Byddan nhw’n dychwelyd i Gaerdydd i baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Estonia wrth i’r garfan deithio i Kazan i herio Belarws.