Mae pump o chwaraewyr tîm criced Morgannwg yn hunanynysu wrth i’r sir droi eu sylw’n ôl at y Bencampwriaeth eto heddiw (dydd Llun, Awst 30).

Ar ôl cipio tlws Cwpan Royal London ar Awst 19, Essex yw’r gwrthwynebwyr yng Ngerddi Sophia wrth i ran ola’r Bencampwriaeth pedwar diwrnod ddechrau.

Mae Essex ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn bumed.

Ond mae Morgannwg heb Nick Selman, James Weighell, Tom Cullen, Joe Cooke ac Andy Gorvin, sydd i gyd wedi dod i gysylltiad ag achos positif o Covid-19 o fewn y garfan.

Mae Steven Reingold wedi’i gynnwys yn lle Joe Cooke, ac fe allai chwarae mewn gêm dosbarth cyntaf am y tro cyntaf pe bai’n cael ei ddewis.

Mae Matthew Maynard, y prif hyfforddwr, yn ôl wrth y llyw ar ôl bod yn aelod o dîm hyfforddi’r Tân Cymreig yn y Can Pelen, ac mae David Harrison yn dychwelyd i’w rôl fel is-hyfforddwr ar ôl cael ei ddyrchafu dros dro.

Hefyd yn dychwelyd mae’r capten Chris Cooke, fu’n chwarae i’r Birmingham Phoenix, ynghyd â David Lloyd (Tân Cymreig), Timm van der Gugten (Trent Rockets) a Dan Douthwaite (Manchester Originals).

Mae disgwyl i Hamish Rutherford o Seland Newydd chwarae yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ar ôl ymuno â’r garfan yn lle’r Awstraliad Marnus Labuschagne, tra bod y bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy wedi’i gynnwys ar ôl gwella o anaf, ac mae Lukas Carey hefyd yn y garfan.

Gemau’r gorffennol

Dyma’r tro cyntaf ers pum mlynedd i Forgannwg herio Essex yn y Bencampwriaeth, a Morgannwg enillodd y gêm ddiwethaf o 11 rhediad yn Chelmsford yn 2016.

Roedd angen i Essex sgorio 264 i ennill mewn 91 o belawdau ac roedden nhw’n batio’n gryf ar 92 heb golli wiced, cyn iddyn nhw golli wicedi’n gyflym gyda Michael Hogan yn cipio pump am 45 yn y gwres.

Daeth y fuddugoliaeth gyda dim ond 19 o belenni’n weddill, a hynny ar ôl i’r ornest ddechrau awr a hanner yn hwyr o ganlyniad i dagfeydd yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Chelmsford.

Bydd y gêm hefyd yn cael ei chofio am ganred cyntaf Kiran Carlson mewn gêm dosbarth cyntaf ac am ddyrchafiad Essex i’r Adran Gyntaf.

Daeth yr ornest gyfatebol yng Nghaerdydd y tymor hwnnw i ben yn gyfartal, gyda Will Bragg yn taro 161 heb fod allan, tra bod Timm van der Gugten wedi cipio saith wiced.

Yn 2015, enillodd Morgannwg o 89 rhediad yng Nghaerdydd – eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Essex yng Nghaerdydd ers 1997 – gyda Jacques Rudolph yn taro 82 a Mark Wallace 79, gyda Graham Wagg yn cipio pum wiced am 54.

Essex enillodd yng Nghaerdydd yn 2013, a hynny o bum wiced wrth i Ravi Bopara a Mark Wallace daro canred yr un cyn i David Masters achosi difrod gyda’r bêl i sicrhau nod o 275 i Essex mewn 70 pelawd – nod oedd yn gymharol hawdd yn y pen draw diolch i bartneriaeth agoriadol o 143 rhwng Tom Westley a Jaik Mickleburgh.

Gemau cyfartal gafwyd yn y pum gêm cyn hynny.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Carlson, L Carey, D Douthwaite, M Hogan, D Lloyd, J McIlroy, B Root, S Reingold, H Rutherford, A Salter, C Taylor, T van der Gugten

Carfan Essex: T Westley (capten), B Allison, N Browne, A Cook, S Cook, S Harmer, D Lawrence, A Nijjar, M Pepper, J Porter, J Rymell, S Snater, P Walter, A Wheater

Sgorfwrdd