Mae Harri Jenkins wedi ennill y fedal efydd yn y 100m T33 yng Ngemau Paralympaidd Tokyo, gyda’i berfformiad gorau y tymor hwn.
Fe wnaeth yr athletwr 25 oed orffen y ras mewn 18.55 eiliad.
Andrew Small gipiodd y fedal aur wrth orffen mewn 17.73 eiliad, gyda’r pencampwr Ahmad Almutairi o Kuwait yn ail o drwch blewyn ac yn cipio’r fedal arian.
Mae gan dîm Prydain gyfanswm o 25 o fedalau aur erbyn hyn, yn ogystal â 19 medal arian a 20 medal efydd.
Dyma’r tro cyntaf i Jenkins gystadlu yn y Gemau Paralympaidd.