Mae’r unig Gymro yn nhîm rygbi cadair olwyn Prydain sydd wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yn dweud bod tîm Prydain “yn rhywbeth mwy” ac yn “gyfuniad o’r holl wledydd”.

Arweiniodd Roberts, sy’n hanu o’r Trallwng, y tîm i’w medal aur gyntaf erioed, yn dilyn medalau efydd mewn Gemau blaenorol yn 2004 a 2008, wrth iddyn nhw guro’r Unol Daleithiau o 54-49.

Sgoriodd Roberts 24 o geisiau, wrth i Brydain arwain ar ddiwedd pob chwarter o’r ornest.

Sgoriodd Stuart Robinson 14 ac Aaron Phipps 11.

Dim ond ers 2000 y bu’r gamp yn rhan o’r Gemau Paralympaidd ar ôl cael ei harddangos yng Ngemau Atlanta yn 1996.

Sicrhaodd Prydain eu lle yn y rownd derfynol eleni ar ôl curo Japan o 55-49.

“Cymro mawr balch ydw i,” meddai Jim Roberts.

“Dw i’n mynd i wylio’r gemau rygbi pan alla i a dw i’n gefnogwr enfawr.

“Ond Prydain Fawr yw hyn ac mae’n gyfuniad o’r holl wledydd hynny, ac mae’n rhywbeth mwy a dyna pam dw i’n dwlu ar gampau tîm mewn gwirionedd.

“Mae’n gyfuniad o’r holl gydrannau.

“Rydyn ni’n cyflawni rhywbeth sy’n fwy nag y gallai unrhyw un ohonom ei gyflawni ar ein pennau ein hunain.”

Rygbi cadair olwyn

Rhagor o fedalau i athletwyr o Gymru yn Tokyo

Jim Roberts yn aelod o’r tîm rygbi cadair olwyn sydd wedi ennill aur, wedi efydd yr un i Paul Karabardak a Tom Matthews ddydd Sadwrn (Awst 28)