Mae’r Cymro Jim Roberts a thîm rygbi cadair olwyn Prydain wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Dyma’r tro cyntaf erioed iddyn nhw ennill y fedal aur, ac fe ddaw ar ôl iddyn nhw drechu’r Unol Daleithiau o 54-49 yn y rownd derfynol.

Cael a chael oedd hi cyn i Brydain dorri’n rhydd yn y chwarter olaf.

Mae Roberts o’r Trallwng wedi sgorio 24 cais.

Mae’r canlyniad yn rhagori ar berfformiadau gorau Prydain mewn Gemau blaenorol, wrth iddyn nhw ennill y fedal efydd yn 2004 a 2008.

Japan sy’n mynd â’r fedal efydd y tro hwn, ar ôl curo Awstralia o 60-52.

Ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28), roedd medal efydd yr un i’r chwaraewyr tenis bwrdd Paul Karabardak o Abertawe a Tom Matthews o Aberdâr.