Mae Wayne Hatswell, is-reolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi dweud ei fod e’n anhapus gyda pherfformiad ei dîm wrth iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn Salford ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28).
Mae Hatswell yn gyfrifol am y tîm am y tro wrth i Mike Flynn hunanynysu o ganlyniad i Covid-19.
Dyma’r tro cyntaf i Salford ennill y tymor hwn, ac fe ddaw ddyddiau’n unig ar ôl i Gasnewydd gael crasfa o 8-0 yn erbyn Southampton yng Nghwpan Carabao.
Roedd yr Alltudion ar ei hôl hi ar ôl 38 eiliad wrth i Tyreik Wright rwydo’r gôl gyntaf.
Dyblodd Conor McAleny fantais y Saeson cyn i Ian Henderson rwydro’r dryddedd mewn hanner awr lewyrchus.
Daeth cyfle i Gasnewydd wrth i Timmy Abraham rwydo, ond cafodd y gôl ei chanslo o ganlyniad i lawio’r bêl.
“Roedd yn berfformiad siomedig iawn ac yn ddiwrnod gwael i bawb,” meddai Wayne Hatswell.
“Fe wnaethon ni roi mynydd i ni ein hunain i’w ddringo o’r gôl sgorion nhw yn y 30 eiliad agoriadol.
“Dw i wedi fy siomi gan y ffordd ildion ni rai o’r goliau ond yn gyffredinol, wnaethon ni ddim amddiffyn yn ddigon da na chwarae cystal ag yr ydyn ni wedi’i wneud.
“Doedden ni ddim yn disgwyl y fath ddechreuad; roedden ni eisiau ceisio dechrau dominyddu’r meddiant a phan ewch chi ar ei hôl hi o 1-0, mae pethau’n newid yn gyflym iawn ac roedden ni ar ei hôl hi o ddwy i ddim yn syth wedyn.
“Ro’n i’n teimlo bod y drydedd gôl wedi mynd â ni allan o’r gêm ac unwaith aeth hi i mewn, wnaethon ni fethu dechrau eto.”