Dydy’r holl sôn am ddyfodol Kieffer Moore “ddim yn effeithio arno o gwbl”, yn ôl Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r Adar Gleision golli 2-1 yn erbyn Bristol City yn y Bencampwriaeth ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28).
Sgoriodd Andreas Weimann ddwy gôl yr ymwelwyr – y naill yn yr hanner cyntaf a’r llall ar ôl 69 munud – i sicrhau bod Caerdydd yn colli am y tro cyntaf yn y gynghrair y tymor hwn, er i gôl i’w rwyd ei hun ar ôl 58 munud roi’r Adar Gleision yn gyfartal.
Daeth y gôl honno yn syth ar ôl ergyd gan Moore, sydd wedi’i gysylltu â throsglwyddiad i Uwch Gynghrair Lloegr cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ddydd Mawrth (Awst 31).
“Dw i ddim yn meddwl fod yr holl sôn am drosgwlyddiadau’n effeithio arno o gwbl,” meddai Mick McCarthy am ymosodwr Cymru.
“Mae ganddo fe’r holl sôn yna yn y papurau a’r diddordeb oherwydd ei fod e’n foi gwych.
“Cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, does dim byd yn digwydd.
“Mae e’n rhoi shifft i mewn ac yn gweithio’n galed, mae ganddo fe’r ansawdd.
“Does gyda fi ddim cwynion o gwbl amdano fe na sut chwaraeodd e.”
Ychwanegodd fod y tîm “wedi rhoi popeth” iddi yn ystod y gêm, ond fod yna “ddiffyg safon” yn y perfformiad.
“Rydyn ni’n mynd i golli gemau yn ystod y tymor, ond sut rydych chi’n ymateb [sy’n bwysig].
“Yn gyffredinol, rydyn ni wedi ymateb yn dda oherwydd rydyn ni wedi dangos parodrwydd ac ysbryd i weithio.”