Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y golled o 3-1 yn Preston yn y Bencampwriaeth ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28) “yn brifo”.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl 18 munud trwy Joel Piroe, ond roedd y sgôr yn gyfartal funud yn ddiweddarach wrth i Sepp van den Berg, sydd ar fenthyg o Lerpwl, rwydo i’r tîm cartref.

Roedd Preston ar y blaen ym munud ola’r hanner cyntaf cyn iddyn nhw ymestyn eu mantais ar ôl 51 munud drwy gic rydd Ben Whiteman.

Mae’r Elyrch wedi colli tair allan o bum gêm gynta’r rheolwr newydd wrth y llyw.

“Dw i wir wedi siomi a wnes i ddim ei gweld hi’n dod,” meddai Russell Martin am y golled.

“Sgorion ni gôl o safon uchel iawn ond mae gadael iddyn nhw sgorio mor fuan yn anfaddeuol.

“Mae’r goliau rydyn ni wedi eu hildio wir wedi fy mrifo.

“Dywedais i wrth y bois, os ydyn ni’n colli ein ffordd ni, dw i’n iawn gyda hynny. Dydy heddiw ddim yn ffordd y galla i dderbyn colli.”

Logo Abertawe

Yr Elyrch yn colli 3-1 yn Preston

Mantais gynnar yn mynd i’r gwellt yn Deepdale