Er gwaethaf gôl gynnar a’u rhoddodd ar y blaen am fymryn, colli 3-1 a wnaeth Abertawe yn erbyn Preston North End y pnawn yma.

Roedd Joel Piroe wedi rhoi’r Elyrch ar y blaen 19 munud ar ôl dechrau’r gêm, ond colli eu mantais a wnaethon nhw lai na dau funud yn ddiweddarach wrth i Sepp van den Berg unioni’r sgôr.

Newidiodd y momentwm wedyn wrth i’r Elyrch ddod o dan bwysau cynyddol, a rhoddodd Emil Riis Preston ar y blaen wrth i’r hanner cyntaf ddod i ben.

Diogelodd Ben Whiteman y fuddugoliaeth wedyn i’r tîm cartref mewn cic rydd fedrus ar ôl 52 munud.