Daeth wythnos ddiflas i ben gyda methiant arall i Gasnewydd wrth golli 3-0 i Salford.
Ddyddiau ar ôl cael eu chwalu 8-0 gan Southampton, roedden nhw wedi ildio gôl o fewn 38 eiliad i gychwyn y gêm yn Salford y pnawn yma.
Gary Bowyear a sgoriodd y gôl, a buan y daeth un arall gan Conor McAleny, ac er i Christopher Missilou ddod yn agos at sgorio i Gasnewydd, roedd Ian Henderson wedi sgorio trydedd gôl i’r tîm cartref cyn hanner amser. Wrth i’r hanner cyntaf ddod i ben daeth siom pellach i’r Alltudion wrth i gôl gan Timmy Abraham gael ei gwrthod ar sail i’r bêl gael ei llawio.
Gallai Casnewydd, a oedd heb eu rheolwr Michael Flynn ar ôl prawf Covid positif, fod wedi llithro ymhellach ar ôl yn yr ail hanner, ond roedd buddugoliaeth Salford eisoes wedi’i selio.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf y tymor yn y gynghrair i Salford.