Mae Caerdydd wedi colli am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor yma wrth gael eu curo 2-1 gan Bristol City.
Andreas Weimann oedd arwr Bristol City wrth sgorio’r ddwy gôl a suddodd yr Adar Gleision.
Mae’n golygu fod Bristol City of fewn pwynt bellach i Gaerdydd yn y gynghrair.
Cafodd Caerdydd eu helpu gan gôl Daniel Bentley yn erbyn ei dîm ei hun, ond er iddyn nhw bwyso’n galed yn hwyr yn y gêm, roedd buddugoliaeth yr ymwelwyr yn gwbl haeddiannol.
Aeth Bristol ar y blaen ar ôl 21 munud gyda gôl feistrolgar gyntaf Weimann, ac er i Gaerdydd ddod yn agos at daro’n ôl, roedd yr ymwelwyr yn ymddangos yn fwy cysurus wrth i’r egwyl ddynesu, a chefnogwyr yr Adar Gleision yn edrych yn fwyfwy pryderus.
Er i gôl ddamweiniol Bentley unioni’r sgôr am ychydig, daliodd Bristol ati’n benderfynol nes adennill eu mantais gydag ail gôl Weimann.