Taith i ogledd Lloegr sydd gan Abertawe’r penwythnos hwn, wrth iddyn nhw herio Preston North End.
Dyma fydd seithfed gêm yr Elyrch mewn 21 diwrnod, wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn problemau ffitrwydd yn gynnar yn y tymor.
Bu’n rhaid i Abertawe ddisgwyl tan wythnos diwethaf i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y Bencampwriaeth eleni, gyda gêm chwyrn yn Ashton Gate.
Fe sgoriodd yr ymosodwr Joel Piroe unig gôl y gêm, gydag ergyd i gornel chwith y rhwyd er mwyn coroni perfformiad mwy egnïol gan dîm Russell Martin.
Buddugoliaeth o 4-1 gawson nhw yn y gwpan yng nghanol yr wythnos hefyd, sy’n awgrymu bod dyddiau mwy cyffrous i ddod i’r Jacks sydd yn hanner gwaelod y tabl.
Bydd eu gwrthwynebwyr, Preston North End, hefyd yn anelu am eu trydedd buddugoliaeth o’r bron yn Deepdale dros y penwythnos.
‘Llawer i edrych ymlaen ato’
Mae Russell Martin yn hyderus y bydd perfformiadau diweddaraf yn profi’r rhai oedd yn amau eu ffordd o chwarae ar ddechrau’r tymor yn anghywir.
“Rydyn ni’n trio chwarae a hyfforddi’n wahanol i beth mae’r chwaraewyr wedi arfer ag o,” meddai.
“Fel dw i wedi ei ddweud o’r blaen, dydy hyn ddim o reidrwydd yn well na beth oedden nhw’n ei wneud o’r blaen, achos fe wnaeth y cyn-reolwr [Steve Cooper] waith arbennig yma.
“Dyma ein ffordd ni o’i gwneud hi, ac mae gan bawb eu ffyrdd a’u gwerthoedd gwahanol.
“Mae’n mynd i gymryd amser i arfer… ond rydyn ni dair wythnos a hanner i mewn i’r tymor gyda thîm ifanc, awyddus ac uchelgeisiol.
“Maen nhw’n dod i arfer yn gyflym iawn sy’n golygu bod llawer o bethau cadarnhaol wrth fynd ymlaen.
“Mae yna lawer i edrych ymlaen ato… Fe wnawn ni gyrraedd y nod, ond mae llawer o waith eto i’w wneud.”