Mae Caerdydd yn paratoi i groesawu eu gelynion Bristol City i’r brifddinas ar gyfer gêm ddarbi glannau’r Hafren.
Ar ôl perfformiad addawol penwythnos diwethaf, mae dynion Mick McCarthy yn y safleoedd ail gyfle, a dydyn nhw ddim wedi colli eto ar ôl pedair gêm.
Yn y fuddugoliaeth dros Millwall, fe wnaeth tri amddiffynnwr sgorio goliau gyda’r pen, sy’n golygu bod pob gôl Caerdydd o’r tymor hyd yn hyn wedi dod drwy beniad (8 i gyd).
Er gwaetha’r golled yn erbyn Brighton yng nghwpan Carabao, maen nhw’n parhau i fod â’r gwynt yn eu hwyliau.
Ar y llaw arall, colli wnaeth Bristol City o 1-0 y penwythnos diwethaf yn erbyn hen elyn arall yr Adar Gleision, sef Abertawe, gyda gôl fuddugol yr ymosodwr Joel Piroe.
‘Un fawr i ni’
Fe wnaeth rheolwr Caerdydd, Mick McCarthy, siarad am y gêm fawr mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Iau (26 Awst).
“Dw i’n deall y gemau darbi,” meddai.
“Dw i wedi bod o gwmpas am ddigon hir i wybod bod pawb eisiau ennill eu gêm darbi nhw, ac mae hynny’n ychwanegu mwy o bwyslais ar y gêm, felly mae hon yn un fawr i ni.
“Dw i’n disgwyl bydden nhw’n dod â chefnogaeth go lew, tra bod ein torfeydd ni wedi bod yn ffantastig hefyd.
“Roedden nhw’n wych ddydd Sadwrn diwethaf, felly dw i’n siŵr fydd yna awyrgylch dda unwaith eto.”
Ar ôl gweld perfformiad Bristol City wythnos diwethaf, mae Mick McCarthy dal yn eu cymryd o ddifri er iddyn nhw golli.
“Fe wnaethon nhw ddechrau’n dda – dydyn nhw heb ennill [yn Ashton Gate] ers sbel, ond ddylen nhw wedi mynd ar y blaen yn gynnar.
“Unwaith wnaethon nhw ildio, Abertawe oedd y tîm gorau ond fyddai hi wedi bod mor wahanol os byddai [Bristol City] wedi sgorio.
“Dw i’n disgwyl bydden nhw eisiau dechrau yn yr un modd yn ein herbyn ni, ac maen nhw am fod yn llond llaw os ydyn nhw.”