Mae Vaughan Gething wedi rhybuddio ymwelwyr sy’n teithio o gwmpas Cymru ar benwythnos gŵyl y banc i fod yn ystyriol ac i gymryd camau i ddiogelu eu hunain ac eraill.
Oherwydd y tywydd braf a’r cyfyngiadau parhaus ar deithio dramor, mae disgwyl y bydd mwy o bobol yn teithio rownd Cymru’r penwythnos hwn, yn enwedig mannau arfordirol.
Yn ôl rhagolygon y tywydd, bydd y tymheredd yn cyrraedd 22°C yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o’r penwythnos i fod yn heulog.
Ond gall y cynnydd mewn ymwelwyr arwain at straen sylweddol ar ffyrdd a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â’r sector twristiaeth a lletygarwch, felly mae rhybuddion clir i ymwelwyr gymryd gofal.
Rhybudd
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi annog pobol i barchu’r cymunedau maen nhw’n ymweld â nhw gan ychwanegu bod risgiau Covid-19 yn parhau i fod yn sylweddol.
“Rydyn ni i gyd wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth gadw Cymru, ein hymwelwyr, ein gweithwyr a’n cymunedau’n ddiogel yn yr hyn a fu’n haf prysur iawn i’r economi ymwelwyr yng Nghymru,” meddai.
“Hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi gwneud eu gorau i sicrhau eu bod yn ymweld â Chymru mewn modd cyfrifol yr haf hwn.
“Wrth inni edrych ymlaen at benwythnos gŵyl banc olaf yr haf rydyn ni’n disgwyl i lawer o leoedd fod yn brysur.
“Felly, chwiliwch am leoliadau tawelach, cynlluniwch eich ymweliad, defnyddiwch wasanaethau parcio a theithio, dilynwch y cod cefn gwlad a pharchwch eich gilydd a’r lleoedd rydych chi’n ymweld â nhw i sicrhau bod pawb yn gallu cael penwythnos gŵyl banc gwych.
“Mae COVID yn bresennol o hyd ac mae’r achosion cynyddol yn ein hatgoffa ni bod angen inni i gyd barhau i ddilyn y rheolau syml i atal y feirws rhag lledaenu – golchwch eich dwylo, cadwch bellter a gwisgwch orchuddion wyneb lle bo hynny’n briodol.”