Mae Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru’n rhybuddio y bydd angen diffiniad llawer cliriach o beth yw annibyniaeth i Gymru cyn fod gobaith cyflawni nod o’r fath.

Mewn colofn yn ‘The National’, dywed Dafydd Wigley ei bod yn gwestiwn dilys i ofyn a yw Plaid Cymru, dros y ddegawd ddiwethaf, wedi esbonio beth yn hollol mae’n ei olygu gydag ‘annibyniaeth’.

“Er mwyn i bobl Cymru gefnogi annibyniaeth, rhaid inni egluro beth mae’n ei olygu,” meddai.

“Mae hyn yn nhermau symudiad pobl a nwyddau ar draws yr ynysoedd hyn; dinasyddiaeth, trethiant, arian; cyllido pensiynau; ein perthynas ag Ewrop, y frenhiniaeth a’r Gymanwlad; a llawer mwy.”

Fel un sydd wedi bod yn gefnogwr brwd i’r Undeb Ewropeaidd ar hyd ei oes, mae’n disgrifio Brexit fel ‘trasiedi’, gan gydnabod y cymhlethod sy’n deillio o’r ffaith nad yw gwledydd Prydain o fewn fframwaith Ewropeaidd cyffredin.

“Yn sylfaenol, rhaid inni gydnabod, y bydd, ar ôl annibyniaeth, berthynas a fydd yn parhau rhwng ein pedair cenedl – Cymru, yr Alban, Iwerddon a Lloegr,” meddai. “Bydd hyn yn gofyn am fecanweithiau i reoli materion a fydd yn gyffredin iddynt – fel marchnad sengl Brydeinig a allai ddatblygu.

“Dyma’r materion y bydd yn rhaid i Blaid Cymru, ac unrhyw un sydd o ddifrif ynghylch annibyniaeth, eu harchwilio os ydym am gario etholwyr Cymru efo ni.”

O dan arweiniad Dafydd Wigley, cafodd Plaid Cymru ei pherfformiad etholiadol gorau erioed yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999, gan ennill 17 o seddau a bron i 30% o’r bleidlais.