Mae achosion coronafeirws ar gynnydd yng Nghymru, gydag amcangyfrif bod tua un o bob 120 o bobl wedi cael Covid-19 yn yr wythnos hyd at 20 Awst.
Mae hyn i fyny o un o bob 130 yn yr wythnos flaenorol a’r lefel uchaf ers yr wythnos hyd at 12 Chwefror.
Mae cynnydd wedi bod mewn cyfraddau achosion ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, ac maen nhw ar eu huchaf yng Ngogledd Iwerddon. Yno, mae’r amcangyfrif diweddaraf yn un o bob 40, i fyny o un o bob 50 yn yr wythnos flaenorol a’r lefel uchaf ers i’r amcangyfrifon ddechrau ym mis Hydref 2020.
Ar gyfer yr Alban, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod tua un o bob 140 o bobol wedi cale Covid-19 yn yr wythnos hyd at 20 Awst, i fyny o un o bob 200 yn yr wythnos flaenorol.
Mae’r holl ffigurau ar gyfer pobl mewn cartrefi preifat.
Roedd gan tua un o bob 70 o bobol mewn cartrefi preifat yn Lloegr Covid-19 yn yr wythnos hyd at 20 Awst, i fyny o un o bob 80 yn yr wythnos flaenorol, yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae un o bob 70 yn Lloegr yn cyfateb i tua 756,900 o bobl.