Bydd yr uchafswm ar daliadau digyffwrdd yn codi am yr eildro mewn llai na dwy flynedd ym mis Hydref wrth i’r Llywodraeth geisio annog pobol i wario mwy mewn siopau.
Bydd siopwyr yn gallu talu hyd at £100 gan ddefnyddio eu cardiau digyffwrdd o 15 Hydref ymlaen, meddai corff masnachol y diwydiant banciku a chyllid, UK Finance.
Roedd y cynnydd eisoes wedi’i gyhoeddi gan y Llywodraeth yn gynharach eleni, ond nid oedd banciau wedi penderfynu pryd i’w weithredu.
“Mae taliad digyswllt wedi bod yn boblogaidd iawn gyda defnyddwyr ac mae nifer cynyddol o daliadau yn cael eu gwneud gan ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd,” meddai David Posts, prif weithredwr UK Finance.
“Bydd y cynnydd yn y terfyn i £100 yn caniatáu i bobol dalu mwy wrth wneud eu siopa wythnosol neu lenwi eu car gyda thanwydd.
“Mae’r diwydiant taliadau wedi gweithio’n galed i sefydlu’r seilwaith i alluogi manwerthwyr i ddiweddaru eu systemau taliadau fel y gallant ddechrau cynnig yr uchafswm uwch newydd hwn i’w cwsmeriaid.”
“Haws”
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak: “Bydd cynyddu uchafswm taliadau digyffwrdd yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i dalu’n ddiogel, boed hynny yn y siopau lleol, neu eich hoff dafarn a bwyty.
“Wrth i bobol ddychwelyd i’r stryd fawr, bydd miliynau o daliadau’n cael eu gwneud yn symlach, gan roi hwb i fanwerthwyr a siopwyr.”
Pan gyflwynwyd cardiau digyswllt am y tro cyntaf yn 2007, cafodd y taliadau eu capio ar £10.
Cododd hyn i £15 yn 2010, £20 yn 2012, £30 yn 2015 a £45 ym mis Ebrill y llynedd yn nyddiau cynnar y pandemig.