Gallai ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban gael ei gynnal os yw’r poliau piniwn yn dangos yn gyson fod 60% o Albanwyr yn cefnogi cynnal pleidlais o’r fath.
Y datganiad gan Alistair Jack, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn San Steffan, yw’r tro cyntaf i weinidogion San Steffan fanylu ar amodau ar gyfer caniatáu ail refferendwm.
Wrth siarad â Politico, dywedodd y byddai’n rhaid i’r gefnogaeth tuag at gynnal refferendwm (nid y gefnogaeth i annibyniaeth) aros ar 60% am “gyfnod rhesymol o hir”.
Daw ei sylwadau wedi i weinidog y Cabinet, Michael Gove, ddweud na fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhwystro ail refferendwm pe bai hynny fyddai “ewyllys sefydlog” pobol yr Alban.
“Nid nawr yw’r amser”
Pan ofynnwyd i Alistair Jack, beth fyddai “ewyllys sefydlog” yn ei olygu, dywedodd: “Pe baech chi’n gweld, yn gyson, fod 60% o’r boblogaeth eisiau refferendwm – nid eisiau annibyniaeth ond eisiau refferendwm – a bod hynny’n cael ei gynnal dros gyfnod rhesymol o hir, yna byddwn yn cydnabod bod awydd am refferendwm.
“Gall unrhyw un weld hynny.
“Ond nid dyna lle mae pethau, ac nid felly dw i’n gweld pethau.
“Dw i’n meddwl fy mod i yn yr un lle ag y mae’r cyhoedd, ar y cyfan, sef mai nad nawr yw’r amser i gynnal refferendwm.
“Rydyn ni wedi cael un, rydyn ni wedi gwneud ein dewis, gadewch i ni symud ymlaen ac ailadeiladu’r economi a bywydau pobol.”
Dangosodd y pol piniwn diweddaraf bod 42% o blaid cynnal refferendwm mewn mwy na blwyddyn ond o fewn pum mlynedd, tra bod 40% yn gwrthwynebu cynnal un o fewn yr amser hynny.
Yn ôl y pol piniwn, roedd 53% o aros yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod hi eisiau cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn y bum mlynedd nesaf, cyn diwedd 2023 yn ddelfrydol.