Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal adolygiad i fynd i’r afael â phrinder gyrwyr loriau.

Bydd hynny’n golygu ystyried ychwanegu swyddi gyrru lorïau at y Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder, fel bod modd rhoi fisas i yrwyr o’r Undeb Ewropeaidd.

Roedden nhw i fod i adolygu’r polisi flwyddyn nesaf, ond mae pwysau sylweddol wedi bod arnyn nhw i ymateb i’r argyfwng presennol

Mae’r argyfwng hwnnw wedi gweld toriadau yn y gadwyn gyflenwi, sydd wedi achosi prinder cynnyrch mewn archfarchnadoedd a bwytai.

Gwella ffyrdd

Er hyn, llugoer yw ymateb aelod blaenllaw o’r diwydiant cludiant yng Nghymru, sydd o’r farn mai ffyrdd gwael yw un o’r prif broblemau.

Mae Mathew Francis, Rheolwr Gweithredol cwmni loriau Frenni, yn credu mai problemau eraill heblaw Covid-19 a Brexit yw’r prif resymau dros y prinder diweddar.

Mae’n rhestru’r prif resymau bod pobol ddim yn ymuno â’r swydd yn ddiweddar, sy’n cynnwys oriau hir a thraffig, o ganlyniad i ffyrdd gwael.

Dydy o ddim yn meddwl bod cynlluniau newydd y Llywodraeth yn edrych yn y lle iawn i drio lliniaru’r argyfwng.

“Sa i’n gweld bod e’n mynd i wneud gwahaniaeth,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw’n trio dweud mai Brexit sydd wedi effeithio hyn, ond roedd prinder gyrwyr pan oedden ni yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Dydy’r isadeiledd ddim yn fit for purpose, nid dim ond yng Nghymru, ond yn y wlad i gyd.

“Mae miloedd ar filoedd yn cael ei wario ar HS2, ond does dim sôn am wneud dim am y rhewlydd sy’n cwympo ar led y wlad.”

‘Modd i werthu’r swydd’

Dywed Mathew fod angen mynd i’r afael â’r holl broblemau presennol i wneud swyddi’n fwy apelgar i yrwyr ifanc.

Ar hyn o bryd, 55 oed yw’r oedran cyfartalog i yrrwr lori yn y Deyrnas Unedig.

“Dydy hyn ddim yn sefyllfa sydd wedi digwydd dros nos, ond mae’r storm berffaith wedi dod nawr,” meddai.

“Sa i’n gweld sut ydyn ni’n mynd i gael pobol i mewn achos dydy e ddim yn apelio.

“Mae’n rhaid cael modd i werthu’r swydd i bobol.”

Dydy gyrwyr loriau ddim yn cael teithio mwy na pedair awr a hanner ym Mhrydain, felly mae traffig yn lleihau’r pellter maen nhw’n ei deithio.

Mae Mathew’n credu bod angen gwell adnoddau er mwyn trin gyrwyr yn well.

“Os ydych chi’n mynd i services, mae’n gallu bod yn gostus, felly mae gyrwyr yn parcio mewn lay-by i osgoi talu,” meddai.

“Mae angen cael truck parks fel sydd ganddyn nhw’n Ewrop – lle chi’n troi mewn am ddim, ac mae wi-fi a chaffis yno, fel bod gyrwyr yn teimlo’n saff i aros yno dros gyfnod hir.”