Bydd y ffyrdd trwy drefi Ceredigion yn ailagor yr wythnos nesaf cyn dechrau’r tymor ysgol newydd.

Ar ôl 5 Medi, bydd y trefniant o gau ffyrdd yn ddyddiol yn dod i ben yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd, ynghyd â’r trefniant 24 awr y dydd i gau Stryd y Farchnad, Aberystwyth.

Dywed y Cyngor bod hynny am ei bod yn rhagweld y bydd nifer o bobol sy’n ymweld â’r trefi yn gostwng wrth i’r haf ddod i ben.

Fodd bynnag, bydd elfennau eraill o’r Parthau Diogel yn parhau mewn grym am y tro, gan gynnwys y trefniadau amgen ar gyfer llif y traffig a’r llwybrau troed lletach, a fydd yn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol rhesymol wrth grwydro’r trefi.

Bydd hefyd yn galluogi’r Cyngor i ymateb os bydd cyfnodau clo pellach yn cael eu cyflwyno.

“Mae’r coronafeirws yn parhau yn fygythiad yn ein cymunedau ac mae cyfraddau heintio yn codi’n ddramatig ymhob rhan o’r sir,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.

“O ganlyniad, mae’r Parthau Diogel yn parhau i fod yn fesur hollbwysig i alluogi pobl i grwydro’r strydoedd yn rhydd ac yn ddiogel heb deimlo eu bod mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws mewn unrhyw ffordd.”

Cefndir

Cyflwynwyd y Parthau Diogel yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020 yn rhan o ymateb y Cyngor i bandemig y coronafeirws a’i ymdrechion i gadw trigolion ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod y cyfnodau prysur i dwristiaeth.

Mae’r Cyngor yn dweud y byddan nhw’n parhau i gysylltu â busnesau sydd wedi manteisio ar y trefniant o gau ffyrdd trwy greu ardaloedd eistedd yn yr awyr agored i bobl fwynhau.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus arall yn cael ei gynnal ar y Parthau Diogel yn ystod y misoedd nesaf i asesu eu heffaith a chasglu syniadau ar gyfer y ffordd orau ymlaen i’n trefi.