Cafodd John Jones, ymgeisydd y Ceidwadwyr, ei ethol i gynrychioli ward Graig ar Gyngor Dinas Casnewydd, mewn isetholiad ddoe.
Llwyddodd I gadw’r sedd dros ei blaid yn dilyn ymddiswyddiad Margaret Cornelius, a fu’n cynrychioli’r ward ers amser hir, oherwydd iechyd gwael.
Cafodd 610 o bleidleisiau gan guro’r ymgeisydd Llafur o 76 pleidlais mewn gornest agos.
Dywedodd Mr Jones ei fod e’n teimlo’n “anhygoel” ar ôl y cyhoeddiad am lwyddiant ei blaid.
Ychwanegodd: “Allai ddim aros i wneud rhywbeth cadarnhaol dros fy nghymuned.”
Bydd yn cynrychioli’r ward ar y cyd â’i gyd-gynghorydd Ceidwadol David Williams.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Evans, arweinydd grŵp Ceidwadol y cyngor: “Mae John wedi gweithio’n arbennig o galed am hyn”.
Yn y cyfamser, mae’r ymgeisydd Llafur, John Harris, wedi dweud ei fod e’n ystyried sefyll eto yn etholiadau’r cyngor ym mis Mai 2022.
Ychwanegodd Mr Harris: “Y tro nesaf, bydd rhaid i mi ganolbwyntio ar sut i ddenu mwy o gefnogaeth gan bobol yn ward Graig”.
Y canlyniad yn llawn:
- John Jones (Ceidwadwyr): 610
- John Harris (Llafur): 534
- Jeff Evans (Democratiaid Rhyddfrydol): 71