Mae awyrennau’n cludo pobol o Affganistan wedi ailddechrau hedfan ddiwrnod ar ôl i ymosodiadau terfysgol dargedu miloedd o bobol ym maes awyr Kabul.

Yn ôl yr awdurdodau, mae o leiaf 95 o ddinasyddion Affganistan wedi cael eu lladd, ynghyd ag o leiaf 13 o filwyr yr Unol Daleithiau.

Cafodd dros 150 o bobol eraill eu hanafu yn sgil y ddau ffrwydrad ddoe (26 Awst) hefyd.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, wedi beio’r ffrwydradau ar rai sy’n gysylltiedig â’r grŵp ‘Islamic State in Affganistan’ (Isis-K), grŵp sydd dipyn mwy radical na’r Taliban, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd Llywodraeth yr Unol Daleithiau y gellir disgwyl ymosodiadau pellach cyn i filwyr o dramor orfod gadael y wlad ddydd Mawrth (31 Awst).

“Oriau ar ôl”

Roedd Boris Johnson, fel Joe Biden, wedi addo parhau â’r ymdrech filwrol i gludo pobol o Affganistan tan 31 Awst.

Fodd bynnag, yn ôl Ysgrifennydd Amddiffyn y Deyrnas Unedig, mae’r ymdrech eisoes wedi cyrraedd ei chamau olaf.

Dywedodd Ben Wallace fore heddiw (27 Awst) mai “oriau” sydd ar ôl yn yr ymdrech i helpu pobol i ffoi rhag y Taliban.

“Y ffaith yw, ni fydd pob un ohonyn nhw’n dod allan [o’r wlad]”, meddai Ben Wallace.

Fe wnaeth e wrthod rhoi amserlen ar gyfer pryd fyddai’r milwyr Prydeinig sydd ar ôl yno yn gadael, ond dywedodd y byddai hynny cyn yr Americanwyr.

Dywedodd Ben Wallace fod y swyddfa brosesu wedi cau am 4:30yb, a bod Abbey Gate, prif fynedfa’r maes awyr a lleoliad un o’r ffrwydradau, wedi cau hefyd.

“Byddwn ni’n prosesu’r bobol rydyn ni wedi dod efo ni, y 1,000 o bobol sydd yn y maes awyr nawr, a byddwn ni’n parhau i ddod o hyd i ambell berson yn y torfeydd ble gallwn ni, ond ar y cyfan mae’r prif brosesu wedi cau nawr ac mae gennym ni fater o oriau,” meddai wrth Sky News.

“Ymdrech ryfeddol”

Yn ôl Boris Johnson, mae’r “mwyafrif llethol” y bobol gymwys wedi cael help i ffoi, ond bydd ymdrechion gan yr awyrlu a milwyr Prydain yn “parhau tan y funud olaf” er gwaetha’r digwyddiad “barbaraidd”.

Mae’n debyg na chafodd dim o staff byddin na Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu hanafu yn y ddau ffrwydrad, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ers 13 Awst, mae’r Deyrnas Unedig wedi helpu 13,146 o ddinasyddion Prydeinig, Affganiaid, gweithwyr y llysgenhadaeth ac eraill o’r wlad.

Ar ôl cadeirio cyfarfod Cobra brys ddoe (26 Awst), dywedodd Boris Johnson y gallai “gadarnhau bod yna ymosodiad terfysgol barbaraidd wedi digwydd, lle bu farw aelodau o fyddin yr Unol Daleithiau, yn anffodus, a nifer o Affganiaid”.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth ohebwyr y bydd ymdrechion i helpu pobol adael y wlad yn “ddi-stop” yn unol “â’r amserlen sydd gennym ni”.

“Dw eisiau pwysleisio ein bod ni’n mynd i barhau â’r ymdrech honno. Ac ein bod ni nawr yn dod tuag at ei diwedd hi, ei diwedd un hi. Ac rydyn ni wedi dod â’r mwyafrif llethol o’r rhai dan y ddwy raglen o’r wlad, y bobol gymwys, pobol y Deyrnas Unedig, dinasyddion y Deyrnas Unedig, a’r Affganiaid, y cyfieithwyr, ac eraill.

“Ac mae hi wedi bod yn ymdrech hollol ryfeddol gan y Deyrnas Unedig, does dim byd fel hyn wedi bod ers degawdau a degawdau.”

Yr Unol Daleithiau sy’n cynnal diogelwch ym maes awyr Kabul, gan olygu eu bod nhw’n debygol o orfod aros yno’n hirach na lluoedd eu cynghreiriaid.

Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd Joe Biden y bydd yr Unol Daleithiau yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol am yr ymosodiad “heb ymgyrchoedd milwrol mawr”.

“O ran dod o hyd i’r arweinwyr Isis wnaeth orchymyn bod hyn yn digwydd, mae gennym ni beth rheswm i gredu ein bod ni’n gwybod pwy ydyn nhw, dydyn ni ddim yn bendant, a byddwn ni’n dod o hyd i ffyrdd, heb ymgyrchoedd milwrol mawr, i gael hyd iddyn nhw le bynnag maen nhw.”

Dogfennau

Yn y cyfamser, mae Gweinyddiaeth Dramor y Deyrnas Unedig wedi amddiffyn staff ei llysgenhadaeth yn Kabul ar ôl i ddogfennau gyda manylion gweithwyr Affgan, ac ymgeiswyr swyddi, gael eu darganfod ar y llawr yn rhanbarth diplomyddol Prydain.

Mae disgwyl i’r Pwyllgor Dethol dros Faterion Tramor lansio ymchwiliad ar ôl i un o ohebwyr The Times ddod o hyd i bapurau gyda manylion cyswllt saith o Affganiaid

Gydag ofnau bod y Taliban am ddial ar unrhyw un fu’n gweithio i wledydd y Gorllewin yn y wlad, roedd y papurau’n cynnwys enwau a chyfeiriadau un uwch aelod o’r llysgenhadaeth, aelodau eraill o staff a’u manylion cyswllt, CVs a chyfeiriadau pobol oedd wedi trio am swyddi fel cyfieithwyr.

Roedd rhai o’r ymgeiswyr wedi rhestru gwaith i wledydd y gorllewin fel swyddi blaenorol.

Fe wnaeth The Times ffonio’r rhifau ar y rhestr a darganfod fod rhai o’r gweithwyr wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig, ond bod eraill wedi’u gadael ar ôl.

Mae’n ymddangos fod staff y llysgenhadaeth wedi anwybyddu rheoliadau i ddinistrio’r holl ddata a allai amharu ar weithwyr lleol wrth adael y llysgenhadaeth ar frys.

Yn ôl The Times, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, wrthod ceisiadau i siarad â’i weinidog cyfatebol yn Affganistan ynghylch helpu cyfieithwyr i ffoi ddeuddydd cyn i’r Taliban gipio Kabul.

“Wedi torri”

Mae pobol leol yn Kabul yn teimlo eu bod nhw wedi “torri” ar ôl y ffrwydradau angheuol ddoe (26 Awst).

Dywedodd un fyfyrwraig ym Mhrifysgol Kabul wrth PA ei bod hi’n “99%” siŵr bod ei ffrind wedi marw yn y maes awyr.

Roedd y ferch 22 oed wedi trïo perswadio ei ffrind i adael ardal y maes awyr, ar ôl clywed y rhybuddion am ymosodiad terfysgol.

“Dywedodd ei bod hi wedi dioddef… dywedodd ‘Ni wnaf adael hyd yn oed os dw i’n marw’”, meddai’r fyfyrwraig.

“Roedd y ffrwydrad yn yr union le’r oedd hi… doeddwn i methu ei chyrraedd.”

“Mae yna ddau [grŵp] o bobol… y rhai wrth ymyl ac o amgylch y maes awyr a’r rhai’n eistedd yn eu cartrefi yn [derbyn] popeth.”

Dywedodd myfyriwr arall ei fod e wedi “diflasu ar fywyd” ers i’r Taliban gipio’r grym.

“Dw i wedi torri’n llwyr. Wedi diflasu ar fywyd. Dim heddiw’n unig ond ers i’r Taliban gymryd drosodd,” meddai’r dyn 29 oed.

Affganistan: anobaith wedi ugain mlynedd o wrthdaro

Jacob Morris

Mae’r dyfodol yn ansicr, gyda hawliau menywod a rhyddid gwleidyddol trigolion y wlad yn y fantol

Dau ffrwydrad ger maes awyr Kabul

Digwyddodd y ffrwydradau y tu allan i’r maes awyr, lle mae miloedd o Affganiaid wedi ymgynnull yn y gobaith o adael y wlad