Mae Swyddfa Dramor Rwsia’n dweud bod o leiaf 13 o bobol wedi’u lladd mewn dau ffrwydrad y tu allan i faes awyr Kabul, a bod 15 yn rhagor wedi’u hanafu.

Dywed awdurdodau’r Unol Daleithiau fod staff Americanaidd ymysg y rhai sydd wedi’u eu hanafu ym mhrifddinas Affganistan.

Digwyddodd y ffrwydradau wrth ymyl Abbey Gate, y tu allan i’r maes awyr, lle mae miloedd o Affganiaid wedi ymgynnull yn y gobaith o adael ar un o awyrennau’r Unol Daleithiau.

Roedd cenhedloedd y Gorllewin wedi rhybuddio am ymosodiad posib yn y maes awyr yn gynharach heddiw (dydd Iau, Awst 26).

Daesh (neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’) ac nid y Taliban fydd dan amheuaeth am unrhyw ymosodiad terfysgol.

Dywed Adam Khan, Affgan a oedd yn disgwyl y tu allan i’r maes awyr, fod y ffrwydrad wedi digwydd mewn torf o bobol oedd yn disgwyl i gael mynediad i’r maes awyr.

Roedd yn ymddangos fod sawl person wedi marw neu wedi’u hanafu, meddai, ac yntau’n sefyll tua 30 llath i ffwrdd.

Rhybuddion

Roedd sawl gwlad wedi annog pobol i osgoi’r maes awyr, ac mae rhai gwledydd wedi dod â’u hymdrechion i hedfan pobol o’r wlad i ben, ac mae eu diplomyddion a’u milwyr wedi dechrau gadael.

Mae’r Taliban wedi cadw at eu haddewid i beidio ymosod ar luoedd y Gorllewin yn ystod y cyfnod hwn, ond maen nhw’n mynnu bod rhaid i filwyr o dramor adael erbyn y dyddiad sydd wedi’i osod gan yr Unol Daleithiau, sef Awst 31.

Dros nos neithiwr (nos Fercher, Awst 25), daeth rhybuddion newydd ynghylch bygythiad gan bobol sy’n gysylltiedig â grŵp Daesh Affganistan.

Mae’n debyg fod y grŵp wedi gweld cynnydd yn eu rhengoedd ers i filwyr y Taliban ryddhau carcharorion.

Dywed James Heappey, Gweinidog y Lluoedd Arfog, wrth BBC Breakfast fore heddiw (dydd Iau, Awst 26) fod yna “adroddiadau credadwy iawn” am fygythiad sydd “ar fin digwydd” ym maes awyr Kabul.

“Mae hygrededd yr adroddiadau wedi cyrraedd y cam lle credwn fod ymosodiad marwol iawn yn bosibl yn Kabul,” meddai.

“Ac o ganlyniad, rydym wedi gorfod newid y cyngor teithio i gynghori pobol i beidio â dod i’r maes awyr, ac yn wir i symud i ffwrdd o’r maes awyr, dod o hyd i le diogel ac aros am gyfarwyddyd pellach.”

Yn hwyr neithiwr (nos Fercher, Awst 25), fe wnaeth Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau rybuddio dinasyddion wrth dair gât yn y maes awyr i adael ar unwaith yn sgil bygythiad diogelwch.

Fe wnaeth Prydain, Awstralia a Seland Newydd annog eu dinasyddion i beidio â mynd i’r maes awyr hefyd, gyda Gweinidog Tramor Awstralia’n dweud bod yna “risg uchel iawn o ymosodiad brawychol”.

Mewn ymdrech i drio cael pobol i adael un gât yn y maes awyr, fe wnaeth y Taliban chwistrellu dŵr dros y dorf, tra bod rhywun arall wedi rhyddhau nwy dagrau.

Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn asesu’r sefyllfa, ac mae disgwyl i Boris Johnson gadeirio cyfarfod brys yn nes ymlaen.

Rhybuddion y gallai ymosodiad terfysgol gael ei lansio ar Kabul ‘o fewn oriau’

Mae yno “adroddiadau credadwy iawn” o fygythiad sydd “ar fin digwydd” yn ôl Gweinidog y Lluoedd Arfog