Cafodd bron i 10,000 o rybuddion eu hanfon at ddefnyddwyr ap Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn yr wythnos ddiweddaraf ar gofnod – y nifer uchaf ers canol mis Gorffennaf.
Cafodd cyfanswm o 9,753 ‘ping’ eu trosglwyddo yn yr wythnos hyd at Awst 18 yn hysbysu pobol eu bod nhw wedi bod yn agos at rywun oedd wedi profi’n bositif am Covid-19.
Mae hyn wedi cynyddu 63% ers yr wythnos flaenorol, yn ôl ffigurau’r Llywodraeth.
Ers Awst 7, does dim angen i bobol sydd wedi’u brechu’n llawn hunanynysu os ydyn nhw wedi bod mewn cyswllt agos gyda rhywun sydd wedi profi’n bositif.
Tra bod y ffigyrau wedi cynyddu yng Nghymru, fe ostyngodd y nifer yn Lloegr i 237,764 o rybuddion, gan ostwng 7% – y lefel isaf ers yr wythnos hyd at Fehefin 23.
Mae nifer y bobol sy’n sganio côd bar mewn lleoliadau hefyd wedi gostwng yn is na miliwn dros y ddwy wlad, gyda 32,381 o sganiau ap cod QR yn cael eu cynnal yng Nghymru a 958,592 yn Lloegr.
Wrth i nifer y bobol sy’n cael eu hysbysu gan yr ap gynyddu, mae nifer achosion positif Covid-19 yn cynyddu gyda 2,389 o achosion newydd wedi eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae 1,505 o brofion positif ar gyfartaledd bob dydd – sy’n gynnydd o 946 ers yr wythnos flaenorol.
Er bod nifer yr achosion dyddiol ar ei uchaf ers dechrau mis Ionawr, nid yw hynny’n annisgwyl yn dilyn llacio’r rhan fwyaf o gyfyngiadau ar Awst 7.