Mae dau aelod seneddol Ceidwadol wedi ysgrifennu at Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn ei annog i beidio â bwrw ymlaen â chynlluniau i dorri taliadau credyd cynhwysol o fis Hydref.
Dywed Peter Aldous a John Stevenson y dylid gwneud y cynnydd o £20 yr wythnos a gafodd ei gyflwyno wrth ymateb i’r pandemig yn barhaol.
Daw’r llythyr yn sgil rhybuddion gan ddwy elusen y byddai’r toriad yn gwthio miliynau o deuluoedd i ddyled.
Ond mae gweinidogion yn dweud mai mesur dros dro yn unig oedd y cynnydd.
Boris Johnson
Dywedodd Boris Johnson mai’r prif ffocws i’r llywodraeth oedd dod allan o’r pandemig gydag “adferiad dan arweiniad swyddi”, gan ddweud ei fod yn falch o weld bod y cyflog byw wedi codi.
“Rwy’n falch iawn o weld y ffordd y mae’r niferoedd diweithdra wedi bod yn gostwng, mae nifer y cyflogaeth wedi bod yn codi a hefyd mae cyflogau wedi bod yn codi,” meddai.
“Ond dw i’n credu’n gryf fod pobol am weld eu cyflogau’n codi drwy eu hymdrechion yn hytrach na thrwy drethiant pobol eraill yn cael eu rhoi yn eu pecynnau cyflog trwy les.”
Yn y llythyr, dywed yr aelodau seneddol eu bod nhw wedi “dychryn o weld y llywodraeth yn amharod i wrando ar y rhybuddion eang” am y toriadau i’r credyd cynhwysol a safonau byw.
Yn ganolog i’w hymgyrch etholiadol yn 2019 roedd sicrhau mwy o degwch ar draws y Deyrnas Unedig, ac roedd Boris Johnson wedi addo ei fod am weld mwy o degwch ar draws y Deyrnas Unedig gyda’i bolisi “levelling up”.
Mae’r llythyr yn nodi y bydd “teuluoedd sy’n gweithio’n galed, ond mewn swyddi sy’n talu’n isel, yn gweld hyd at £1,040 yn cael eu torri o’u hincwm”.
Mae’n nhw’n mynnu y dylai’r hwb o £20 yr wythnos barhau fel rhan o waddol y pandemig.
Mae’r elusen Cyngor Ar Bopeth wedi rhybuddio y bydd traean o bobol sydd ar gredyd cynhwysol, sy’n cyfateb i o leiaf 2.3m o bobol, mewn dyled pan fydd y taliad ychwanegol yn cael ei ddileu yn yr hydref .
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig nad ydym yn credu y dylai’r cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol ddod i ben gan, o bosibl, wthio rhai o’r chwe miliwn o hawlwyr yn y Deyrnas Unedig ymhellach i dlodi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn amlinellu ein gwrthwynebiadau’n ffurfiol i Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau yr wythnos nesaf.”