Mae Ted Dexter, cyn-gapten tîm criced Lloegr a safodd mewn etholiad cyffredinol dros y Ceidwadwyr yn hen etholaeth De-ddwyrain Caerdydd, wedi marw’n 86 oed.
Yn fatiwr i dîm Sussex, enillodd e 62 o gapiau mewn gemau prawf dros Loegr, ac roedd e’n gapten 30 o weithiau, cyn mynd yn ei flaen i fod yn ddarlledwr, yn nofelydd ac yn gadeirydd dewiswyr tîm criced Lloegr.
Sgoriodd e 4,502 o rediadau mewn gemau prawf a chipiodd e 66 o wicedi, gan sgorio naw canred ar gyfartaledd ychydig yn is na 48.
Aeth yn ei flaen wedyn i fod yn Llywdd yr MCC.
Roedd e’n gapten ar dîm Sussex pan enillon nhw eu dau dlws undydd cyntaf erioed.
Mae’n cael ei gofio hefyd am ei hoffter mawr o geir cyflym, beiciau modur, rasio ceffylau a golff.
Helynt etholiad Caerdydd
Ond yng Nghymru, mae’n cael ei gofio fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1964, pan oedd y blaid yn ceisio cipio’r sedd oddi ar Jim Callaghan a’r Blaid Lafur.
Ar y pryd, roedd hen etholaeth De-ddwyrain Caerdydd, a gafodd ei ddiddymu yn 1983, yn un ymylol ac yn cael ei lygadu gan y Ceidwadwyr wrth iddyn nhw geisio trechu’r blaid oedd wedi bod mewn grym yno ers i’r etholaeth gael ei sefydlu yn 1950.
Ond roedd eu hymgyrch yn bytiog ac yn ddi-drefn, rhywbeth a gafodd ei danlinellu wrth iddyn nhw ddod â’r Sais Dexter i mewn o’r tu allan, wrth iddo gyfaddef mai prin oedd ei wybodaeth am yr ardal a Chymru yn gyffredinol.
A Dociau Caerdydd yn rhan bwysig o’r etholaeth, roedd ôl diwydiant yn dal yn gryf yn yr ardal dosbarth gweithiol ond doedd Llafur ddim mor sicr o’i hennill â rhai o’r ardaloedd mwy glofaol yng Nghymoedd y De.
Ond os oedden nhw’n creu y gallai ffigwr Seisnig, sefydliadol fel Ted Dexter ei chipio oddi ar Lafurwr mor flaenllaw â Jim Callaghan, yna roedd rhai yn teimlo nad oedd y blaid yn adnabod yr etholaeth na’i phobol o gwbl – gan gynnwys Ted Dexter ei hun.
Dim ond 868 o fwyafrif gafodd Callaghan yn 1959, wrth i’r Ceidwadwyr a’r athro lleol Michael Roberts lwyddo i raddau mwy helaeth nag o’r blaen i apelio i’r gweithwyr diwydiannol.
Roedd disgwyl i Roberts sefyll eto yn 1964 oherwydd ei lwyddiant cymharol yn yr etholiad blaenorol, ond fe wnaeth e ymddiswyddo o’r ras a’r awgrym oedd fod rhai o fewn y Blaid Geidwadol am weld rhywun mwy adnabyddus yn sefyll – er mai prin yw’r cofnodion sydd ar gael o’r cyfnod i gefnogi hynny erbyn hyn.
Treuliodd y blaid haf 1963 yn chwilio am ymgeisydd addas, a chafodd sawl un gyfweliad, ond aeth y blaid ati i chwilio y tu allan i’r llefydd arferol, gan awgrymu enw Ted Dexter – rhywun nad oedd wedi bod yn ceisio mynd i fyd gwleidyddiaeth cyn hynny.
Yn ei gyfweliad, dywedodd Dexter wrth y blaid y dylai pobol fod yn “ddrwgdybus” ohono, ac yntau wedi dod i’r etholaeth o’r tu allan – ac fe fu’n rhaid iddo roi gwybod iddyn nhw nad oedd e erioed wedi bod yn aelod o’r Blaid Geidwadol chwaith.
Serch hynny, fe gafodd ei ddewis i gynrychioli’r blaid yn y pen draw ar ôl iddo gael cryn gefnogaeth gan aelodau’r blaid leol ac roedd hi’n ymddangos, felly, fod denu enw mawr yn bwysicach na dadleuon gwleidyddol i rai.
Y tu allan i’r etholaeth, roedd digon o bobol yn cwestiynu doethineb tynnu Sais o Geidwadwr i mewn i ardal Lafur Gymreig ond roedd hi’n ymddangos bod y blaid leol yn mwynhau’r sylw byd-eang er gwaetha’r rhybuddion.
Wrth ddangos ei anwybodaeth, mae’n debyg fod Dexter wedi dweud wrth rai o ddosbarth gweithiol Caerdydd y byddai ysgol fonedd Eton yn ddewis gwych i’w plant.
Pan ddaeth yr etholiad, cafodd Callaghan fwyafrif enfawr o 7,841 ac fe gafodd Dexter ei feirniadu am fod yn “ddi-hid” wrth ymgyrchu ac fe ddywedodd y gangen leol, yn gwbl ystrydebol, eu bod nhw’n credu y byddai wedi gwneud yn well ac yntau’n gricedwr oedd yn sefyll mewn etholaeth lle’r oedd canran uchel o bobol o’r Caribî yn byw.
Yn ddiweddarach yn ei fywyd, fe gyfaddefodd Dexter, oedd wedi’i eni ym Milan, ei fod e’n gwybod mwy am wleidyddiaeth yr Eidal na gwleidyddiaeth Cymru.