Mae Cwpan Curtis, cystadleueth golff rhwng merched amatur Prydain ac Iwerddon a’r goreuon o’r Unol Daleithiau, yn cael ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghlwb Golff Conwy.

Cafodd ei gohirio’r llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws.

Bydd tîm Prydain ac Iwerddon yn gobeithio dial ar ôl colli yn Efrog Newydd yn 2018, ond does yna ddim chwaraewr o Gymru yn y tîm o wyth eleni.

Caiff Cwpan Curtis ei gynnal bob dwy flynedd fel arfer, ac mi ddechreuodd yn 1932.

Mae’r Americanwyr ar y blaen o 29-8 hyd yma yn holl hanes y gystadleuaeth, gyda thair gornest gyfartal.

Daeth dwy o’r 29 buddugoliaeth hyn yng Nghymru – ar gwrs St Pierre yng Nghas-gwent yn 1980 ac ym Mhorthcawl yn 1964.