Bydd Abertawe yn herio Brighton yn nhrydedd rownd Cwpan Carabao.
Mae hynny yn golygu y bydd Graham Potter, sydd bellach yn rheolwr ar Brighton, yn herio ei hen glwb.
Sgoriodd Morgan Whittaker hatric cyntaf tîm pêl-droed Abertawe ers degawd wrth i’r Elyrch guro Plymouth o 4-1 yn Stadiwm Swansea.com yng Nghwpan Carabao nos Fawrth (24 Awst) gan sicrhau lle’r clwb yn y drydedd rownd.
Er mai dechrau digon sigledig i’r tymor mae Abertawe wedi’i gael, bydd y fuddugoliaeth hon yn siŵr o roi hyder i ddynion Russell Martin.
Cweir i Gasnewydd
Cafodd Casnewydd gweir gan Southampton yn ail rownd Cwpan Carabao neithiwr (Awst 25).
8-0 oedd y sgôr derfynol yn Rodney Parade, gydag is-hyfforddwr Casnewydd yn cydnabod eu bod wedi cael “gwers hallt”.
Roedd Southampton 3-0 ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i goliau gan Armando Broja, Nathan Tella a Kyle Walker-Peters.
Sgoriodd Mohamed Elyounoussi ddwy wedi’r egwyl i gynyddu mantais Southampton i 5-0.
Yna daeth gôl gan Nathan Redmond i’w gwneud hi’n 7-0 cyn i Mohamed Elyounoussi gwblhau ei hatric gyda chic olaf y gêm.
Dywedodd is-hyfforddwr Casnewydd, Wayne Hatswell: “Roedd yn wers hallt a dyna safon y tîm yr oeddem yn ei erbyn.
“Pan fyddan nhw’n cael cyfleoedd maen nhw’n glinigol yn yr hyn maen nhw’n ei wneud.
“Roedden nhw’n pwyso ni’n uchel i fyny’r cae a gwelsom y gwahaniaeth o ran safon.”
Wayne Hennessey yr arwr
Wayne Hennessey oedd arwr Burnley ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb wrth iddyn nhw guro Newcastle United 4-3 ar giciau o’r smotyn.
Fe wnaeth y Cymro arbedion gwych o ymdrechion gan Jeff Hendrick, Dwight Gayle a Javier Manquillo, gan gadw’r gêm yn ddi-sgôr.
O ganlyniad, aeth hi i giciau o’r smotyn lle arbedodd Hennessey ymdrechion Allan Saint-Maximin a Miguel Almiron.
Symudodd Hennessey, 34, i Turf Moor yn yr haf ar drosglwyddiad am ddim ar ôl saith mlynedd gyda Crystal Palace.