Mae Cymry wedi profi llwyddiant yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo heddiw (dydd Iau, Awst 26).

Enillodd y Gymraes Georgia Wilson, 25, fedal efydd yn y merlota.

Daeth yr alwad i Georgia Wilson ymuno â gweddill carfan Prydain yn hwyr iawn wedi i Sophie Christiansen orfod tynnu’n ôl ar ôl i’w cheffyl dderbyn triniaeth.

Fe wnaeth Wilson ddechrau marchogaeth yn ddwy oed ar ôl i rywun ddweud wrth ei mam y byddai’n ei helpu i ddatblygu ei balans.

Roedd Wilson yn cystadlu ar gefn ei cheffyl Sahura.

Tenis bwrdd

Yn y cyfamser, mae Joshua Stacey drwodd i’r wyth olaf yn y tenis bwrdd.

Fe ddechreuodd e chwarae tennis bwrdd yn 13 oed a phedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd e ddiagnosis o barlys yr ymennydd.

Enillodd y fedal efydd i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018.

Roedd yn safle 13 ar restr detholion y byd yn ei gamp cyn y Gemau, felly byddai ennill medal yn dipyn o gamp.