Mae’r pêl-droediwr Benjamin Mendy wedi’i gyhuddo o bedwar achos o dreisio ac o ymosod yn rhywiol, yn ôl yr heddlu.
Bydd y Ffrancwr 27 oed sy’n chwarae i Manchester City yn mynd gerbron llys fory (dydd Gwener, Awst 27) i wynebu’r pum cyhuddiad.
Maen nhw’n ymwneud â thri o bobol dros 16 oed, ac mae lle i gredu bod y troseddau honedig wedi’u cyflawni ers mis Hydref y llynedd.
Mae Mendy, cefnwr chwith Manchester City a symudodd o Monaco am £52m yn 2017, wedi’i gadw yn y ddalfa yn y cyfamser yn dilyn gwrandawiad gerbron ynadon Caer.
Mae’r heddlu’n atgoffa pobol fod yr achos yn fyw, ac mae Clwb Pêl-droed Manchester City wedi cadarnhau bod Mendy wedi’i wahardd yn ystod yr ymchwiliad ond na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach wrth i ymchwiliad yr heddlu gael ei gynnal.