Mae dechrau’r tymor rygbi domestig 2021-22 wedi cael ei symud ymlaen, gyda rhai cynghreiriau i ddechrau fis Tachwedd.
Dyma fydd y rygbi domestig cyntaf i gael ei chwarae yng Nghymru ers Mawrth 2020, ac eithrio gemau’r rhanbarthau.
Yn wreiddiol, bwriad Undeb Rygbi Cymru oedd oedi’r tymor tan fis Ionawr cyn i arweiniad a chanllawiau Covid-19 newid.
Bydd yr Uwchgynghrair eleni yn dechrau bythefnos cyn dydd Nadolig ar 11 Rhagfyr.
Mae cystadleuaeth gwpan newydd wedi ei drefnu i glybiau’r Uwchgynghrair fel tamaid i aros pryd, a bydd y gemau hynny’n digwydd rhwng mis Medi a mis Tachwedd.
Bydd yr holl gynghreiriau o’r Bencampwriaeth i’r Drydedd Adran yn ailgychwyn cyn hynny ar 13 Tachwedd.
Eleni, ni fydd yr un tîm yn codi na disgyn ar gyfer y tymor nesaf, a bydd enillydd pob cynghrair yn cael ei benderfynu drwy gemau ail gyfle.
Cefnogaeth yr Undeb
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi datgan camau fydd yn sicrhau bod clybiau’n derbyn cefnogaeth ariannol i’w cadw nhw’n sefydlog.
“Rydyn ni’n falch o allu symud ymlaen ychydig yn gyflymach na gafodd ei gynllunio gyntaf, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld rygbi Cynghrair rheolaidd yn dychwelyd ar bob lefel,” meddai’r Cyfarwyddwr Cymunedol, Geraint John.
“Ein nod parhaus ni trwy gydol y broses hon yw sicrhau bod y gêm i gyd yn dychwelyd yn ddiogel a chynaliadwy, a sicrhau bod ein clybiau mor iach â phosib pan ddown ni allan o’r pandemig.
“Rydyn ni’n teimlo y bydd y mesurau hyn yn helpu clybiau, gwirfoddolwyr a chwaraewyr i gyflawni hynny yn ystod y tymor hwn.”