Mae S4C a BBC Cymru Wales wedi sicrhau cytundeb ar y cyd i ddangos gemau rhanbarthau rygbi Cymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd Scrum V Live yn dychwelyd i’r sgrin ar nos Wener tra bydd Y Clwb Rygbi ymlaen bob nos Sadwrn.

Bydd Scrum V Live yn dangos 18 gêm yn fyw ar BBC Cymru Wales, gydag un gêm o bob rownd, tra bydd y rhaglen Scrum V yn dangos uchafbwyntiau o holl gemau’r penwythnos bob nos Sul.

Ar S4C, bydd Y Clwb Rygbi yn darlledu 27 gêm fyw drwy’r tymor, gydag un gêm bob penwythnos, a dwy neu dair gêm ar rhai penwythnosau.

Bydd gemau darbi’r Nadolig a gemau Dydd y Farn, i’w gweld naill ai ar Scrum V neu Y Clwb Rygbi.

Ar ben hynny, bydd ailddarllediadau llawn o gemau eraill y rhanbarthau dros y penwythnos i’w gweld ar S4C.

Y gystadleuaeth newydd yw olynydd gynghrair y Guinness PRO14,  ble fydd pedwar rhanbarth rygbi Cymru yn herio 12 o’r timau gorau o Iwerddon, Yr Alban, Yr Eidal a De Affrica. Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar nos Wener 24 Medi.

“Mae hwn yn becyn ffantastig o gemau byw i gefnogwyr rygbi dros y pedair blynedd nesaf,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau, BBC Cymru Wales.

“Mae’n newyddion gwych bod ein gwylwyr yn gallu mwynhau gemau ar Scrum V yn ogystal ag ar Y Clwb Rygbi ar S4C, gyda’r cyfan yn cael ei gynhyrchu gan ein tîm hynod dalentog yn BBC Cymru Wales, a’r cyfan am ddim i’w wylio.

“Mae’r cytundeb yma yn hwb enfawr i’r gymuned rygbi, sydd yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddarlledu chwaraeon yma yng Nghymru.”

“Cryfach nag erioed”

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Mae S4C yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda BBC Cymru Wales i ddangos gemau o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar deledu cyhoeddus.

“Rydyn ni wedi dilyn rhanbarthau Cymru ers y cychwyn cyntaf a gyda 27 gêm byw yn ystod y tymor, gan gynnwys gemau darbi’r Nadolig a Dydd y Farn, mae ein darpariaeth ac ymrwymiad yn gryfach nag erioed.”