Mae’r gyfradd achosion Covid-19 ar ei uchaf ers canol mis Ionawr eleni.
Yn ôl ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru pobol ifanc sydd y tu ôl i’r twf diweddar.
Mae’r nifer o achosion positif bellach yn 17%, ond fe fuodd y nifer yn is na 5% am bedwar mis, cyn y cynnydd diweddar mewn achosion.
Mae’n debyg mae’r cynnydd yn ardaloedd Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am y cynnydd dros yr wythnosau diwethaf.
Ar hyn o bryd Sir Ddinbych sydd â’r gyfradd uchaf o achosion gyda 20% o brofion Covid yn rhai positif.
Ystyriwyd y trothwy o 5% yn allweddol yn ystod dyddiau cynnar y pandmeig ac yn ddangosydd allweddol i’r llywodraeth ar gyfer llacio neu gyflwyno cyfyngiadau llymach.
Cymru a’r DU
Roedd Cymru’n is nag unrhyw genedl neu ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig am ragor na chwe mis eleni.
Yn yr wythnos oedd yn arwain at Awst 19 roedd 306.1 achos am bob 100,000.
Mae Sir Ddinbych wedi gwaethygu i fod y 25ain gyfradd achosion uchaf yn y Deyrnas Unedig ac roedd yn dal i fod yr uchaf yng Nghymru ddydd Mawrth.
Ond mae dwy ardal awdurdod lleol yng Nghymru ymhlith y 10 isaf yn y Deyrnas Unedig – Ynys Môn a Blaenau Gwent.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan wedi dweud bod cyfraddau cynyddol yng Nghymru yn peri pryder iddi – ond mae’r lefelau yn ddisgywliedig oherwydd y llacio diweddar i’r cyfyngiadau.
Codwyd bron pob cyfyngiad yng Nghymru ar Awst 7 ac er bod Llywodraeth Cymru yn adolygu sefyllfa Cymru yr wythnos hon, nid oes disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi unrhyw newidiadau i’r cyfyngiadau ddydd Gwener.
Dywedodd y Farwnes Morgan mai cymysgu rhwng pobol ifanc oedd y prif reswm dros y cynnydd yn y gyfradd, ond y peth sy’n peri’r mwyaf o bryder “yn fwy na dim” oedd cynnydd mewn achosion gyda phobol dros 60 oed.