Dylai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gynnal o leiaf pedwar cyfarfod y flwyddyn gyda’r arweinwyr datganoledig.

Dyna awgrym melin drafod ‘Our Scottish Future’, sydd wedi’i seilio ar gyfweliadau gyda ffigyrau blaenllaw yng Nghaeredin a Llundain.

Daw hyn wrth i adroddiad yn edrych ar sut yr oedd y gwahanol lywodraethau wedi cydweithio yn ystod y pandemig coronafeirws sôn am y “berthynas bersonol enbyd” rhwng Boris Johnson a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon.

Canfu’r felin drafod fod “diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau datganoledig yn lleihau’r ymgysylltu’n effeithiol rhwng San Steffan a’r cenhedloedd a’r rhanbarthau”.

“Mae rheoli argyfwng yn dda yn dibynnu’n llwyr ar gyfathrebu clir, canllawiau ar gyfer cydweithredu a rhannu gwybodaeth yn dda fel y gellir gwyntyllu a datrys y gwahanol farnau, a hynny’n gyflym, hyd yn oed pan fydd gan bobol safbwyntiau gwahanol.

“Roedd hyn ar goll yn llwyr yn ystod rhan hanfodol o ymateb y pandemig.”

“Annerbyniol”

Daeth “isafbwynt” yn y berthynas rhwng y gwledydd ym mis Gorffennaf, pan feirniadodd Llywodraethau Cymru a’r Alban y trefniadau cwarantin a roddwyd ar waith ar gyfer teithwyr oedd yn dod i’r Deyrnas Unedig o dramor.

Ac ym mis Medi, datgelodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oedd wedi cael galwad ffôn gan Boris Johnson am bedwar mis,

Dywedodd Mark Drakeford fod hynny yn “annerbyniol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Rydym wedi wynebu’r pandemig fel un Deyrnas Unedig, gan gydweithio â’r Llywodraethau datganoledig i gefnogi swyddi, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a darparu ein rhaglen brechu hynod lwyddiannus ledled y Deyrnas Unedig,”

“Mae cyfathrebu rheolaidd eisoes rhwng pob lefel o Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau datganoledig, ac rydym am adeiladu ar yr ymgysylltiad hwnnw wrth i ni ganolbwyntio ar adfer ar y cyd; o gael pobol yn ôl mewn swyddi, mynd i’r afael ag ôl-groniadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dal disgyblion i fyny ar oriau ysgol a gollwyd.”