Mae gwylwyr y glannau’r Mwmbwls wedi cwyno am jet skis fu’n “brawychu” pobol.

Mewn datganiad ar Twitter, dywed y gwylwyr bod plant yn “ofnus” wrth i jet ski wibio o’u cwmpas.

Roedd cwch hefyd yn rhan o’r digwyddiad.

“Rydym wedi bod yn gwneud ein gorau gyda’r sefyllfa hon ers dros awr heno,” meddai’r datganiad.

“Jet ski a chwch yn brawychu nofwyr a gyda phlant ofnus.

“Ychydig iawn y gallwn ei wneud heblaw adfer y sefyllfa pan fydd pethau’n mynd o’i le.”

Cymorth

Mae’n debyg bod y cwch a’r jet ski wedi mynd i drafferthion yn fuan wedyn, gan ddibynnu ar y bad achub i’w hachub.

Dywed y datganiad bod Heddlu De Cymru wedi cael eu hysbysu.

“Dechrau tywyllu rŵan a’r bad achub yn lansio i helpu cwch wedi torri i lawr… hmmmm rydyn ni’n meddwl. Ie, y nhw sydd wedi torri i lawr. Angen ein cymorth yn awr.

“Mae yno groeso hyfryd yn disgwyl amdanyn nhw gyda Heddlu De Cymru.”

Bu cryn ymateb i’r digwyddiad, gyda phobol yn gandryll am sefyllfa sydd wedi gwaethygu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, eisoes wedi cyflwyno mesur yn Nhŷ’r Cyffredin (dydd Mawrth, 10 Tachwedd), yn galw am drwyddedau gorfodol ar gyfer beiciau dŵr.

Ac yn dilyn pryderon dros yr haf am ddefnydd peryglus ac anghyfrifol o jet skis, mae Cyngor Gwynedd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth i reoli eu defnydd.

Hywel Williams am gyflwyno mesur i geisio rheoli’r defnydd o feiciau dŵr

Daw hyn yn dilyn dwy ddamwain angheuol yn y gogledd dros yr haf

Galw am ddeddfwriaeth i reoli defnydd jetskis

Daw hyn yn dilyn pryderon dros yr haf am ddefnydd peryglus ac anghyfrifol o jetskis ar arfordir Gwynedd

Jet skis – peryglus ac anghymdeithasol

Yr Haf hwn, gyda’r cyfandir dan glo, bydd y llifddorau’n agor i bawb heidio draw i Gymru