Ddeugain mlynedd wedi i’r merched cyntaf orymdeithio o Gaerdydd i Gomin Greenham, bydd taith arall yn dilyn eu hôl troed.

Ym mis Awst 1981, fe wnaeth grŵp bach o ferched, ac ychydig o ddynion a phlant, adael eu cartrefi yng Nghymru i ymgyrchu’n erbyn arfau niwcliar oedd yn cyrraedd RAF Comin Greenham o’r Unol Daleithiau.

Arweiniodd y daith, a gafodd ei threfnu gan Ann Pettitt, at sefydlu gwersyll heddwch menywod Greenham, a’r ymgyrch oedd yr un fwyaf i gael ei harwain gan fenywod ers yr ymgyrch dros sicrhau pleidlais i ferched.

Bu’r proteswyr yno am 19 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod prysuraf casglodd 70,000 o bobol yno.

Er mwyn nodi bod 40 mlynedd wedi mynd heibio ers yr orymdaith wreiddiol, bydd cannoedd o bobol yn cerdded y 130 milltir o Gaerdydd i Greenham yn Berkshire eto, gan ddechrau heddiw (26 Awst).

 

 

Bydd y criw yn anelu at gyrraedd Comin Greenham ar 4 Medi, wedi dilyn llwybr yr orymdaith wreiddiol gymaint â phosib.

Mae’r daith yn gyfle i gofio am weithredoedd yr ymgyrchwyr, a pharhau ag ymgyrchoedd dros heddwch a chyfiawnder, meddai’r trefnwyr.

“Rydyn ni wedi cyffroi’n arw at ddathlu’r ymgyrch mwyaf llwyddiannus i gael ei harwain gan fenywod ers yr ymgyrch i roi’r bleidlais i ferched drwy ailgreu’r orymdaith o Gaerdydd i RAF Comin Greenham, ar ddeugain-mlwyddiant y digwyddiad pwysig,” meddai Rebecca Mordan, cyfarwyddwr artistig Scary Little Girls, y mudiad sy’n trefnu’r daith.

“Ar hyd y daith, byddwn ni’n cynnal digwyddiadau, perfformiadau, gweithdai a ffilmiau arbennig i gofio yn y trefi aeth yr orymdaith wreiddiol drwyddyn nhw, ar eu ffordd i sefydlu Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham.

“Argyfyngau”

“Ddydd Sul, 5 Medi rydyn ni’n cynnal diwrnod llawn gweithgareddau ar y comin er mwyn dathlu dechreuad y gwersyll a’i hymgyrchoedd llwyddiannus yn cael gwared ar arfau niwcliar o America o dir Prydain a dychwelyd Greenham Common i’r bobol.

“Ni allai’r amseru fod yn bwysicach, wrth i ni wynebu argyfyngau niferus yr argyfwng hinsawdd, cynnydd mewn arfau niwcliar, trais dyddiol yn erbyn menywod, newyn difrifol, anghyfiawnder cymdeithasol sy’n gwaethygu – a cymaint mwy.

“Mae angen i ni sefyll ar ysgwyddau ein cynfamau a mynd â’u hymgyrchoedd dros heddwch a chyfiawnder yn eu blaenau, tra’n sichrau lle unigryw Menywod Greenham yn hanes ymgyrchu.”

Ychwanegodd Rebecca Mordan ei bod hi mor “rymusol” trefnu’r orymdaith, a’r digwyddiadau ar hyd y daith, gyda menywod a dreuliodd amser yn y gwersyll, yn cefnogi’r protestiadau ac hyd yn oed rhai fuodd yn rhan o’r daith wreiddiol yn 1981.

“Mae Merched Greenham yn ganolog a phwysig i’r dathliad deugainmlwyddiant hwn, gan ddangos eu nerth creadigol a’u hysbryd hael unwaith eto,” meddai.

“Allai ddim aros i ymuno â nhw ar strydoedd Caerdydd – ac yn ôl ar y tir y gwnaethon nhw ei adhawlio i’r bobol, ar Gomin Greenham.”