Trwy’r bomiau a’r bwledi mae Affganistan wedi profi 20 mlynedd o wrthdaro milwrol.
Ers 2001 mae byddinoedd cenhedloedd NATO, dan arweiniad yr UDA wedi bod yn bresennol yn y wlad gyda Phrydain yn chwarae ei rhan.
Ond gyda milwyr y Gorllewin yn raddol ymadael, mae’r mudiad eithafol wedi tynhau ei gafael ar y wlad gan gipio trefi a dinasoedd ar garlam dros yr wythnosau diwethaf.
Mae’r dyfodol yn ansicr, gyda hawliau menywod a rhyddid gwleidyddol trigolion y wlad yn y fantol.
Ac er bod helbulon Affganistan yn ein llorio ni gyd trwy gyfrwng papur newydd neu becyn newyddion, i rai, mae’r sefyllfa yn llawer agosach i adref.
Mae Abdullah yn frodor o Affganistan a ddaeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2015, ond sydd bellach yn byw yn Lloegr.
Mae ei deulu yn parhau i fyw yn Affganistan ac mae gweld y sefyllfa bresennol y wlad yn ei gyffwrdd i’r byw.
“Fe allan nhw gael eu lladd yn y modd mwyaf erchyll…trwy gael eu saethu drwy eu pennau hyd yn oed,” meddai Abdullah wrth gylchgrawn Golwg.
Mae am gadw lleoliad ei fagwraeth a’i enw llawn yn anhysbys er mwyn diogelu ei deulu a’i ffrindiau sy’n byw yno.
Fe wnaeth y Taliban fynnu mynediad i dŷ ei deulu’r wythnos ddiwethaf gan ymosod ar ei dad sy’n hen ddyn ac yn gyn-weithiwr i’r llywodraeth.
Yn ddagreuol fe esboniodd Abdullah efallai y daw’r dydd pan na fydd yn gallu siarad gyda’i deulu fyth eto.
“Fe ddywedodd fy mrawd wrthyf i beidio â chysylltu eto oherwydd mae’n bosib eu bod nhw [y Taliban] yn gwrando ar ein sgyrsiau,” meddai Abdullah.
“Er hyn, rydw i wedi ceisio cysylltu â fe eto, ond dydy e heb ateb y ffôn ac maen nhw [ei frodyr] wedi diffodd eu cyfrifon Facebook.
“Dw i’n ofni mai dyna’r alwad ffôn olaf.”
Byw mewn ofn
Er gwaetha’r rhybuddion mae Abdullah wedi cysylltu gyda’i deulu eto ond mae’r sgyrsiau’n gryno iawn.
Mae nhw dal yn fyw ac mae’n gobeithio y byddant yn gallu ffoi’n ddiogel ond mae’r pryder a’r straen yn pwyso arno o ddydd i ddydd gan nad yw’n teimlo y gall ef wneud dim i helpu.
“Dw i yn cael hi’n anodd siarad am y peth, mae fy meddwl dros y lle yn poeni dros ei sefyllfa a’u dyfodol,” meddai.
“Maen nhw’n treial aros yn ddiogel ond mae’n anodd iawn iddyn nhw dan y drefn bresennol.”
“Yn feddyliol, rwy’n cael hi’n anodd iawn ar hyn o bryd.”
Gyda’r Taliban mewn grym, mae’n poeni am sefyllfa ei frodyr fel cyn-weision sifil yn y llywodraeth.
“Roedd fy mrodyr i’n gweithio i Lywodraeth Affganistan ac maen nhw wedi derbyn llythyron a galwadau ffôn yn eu bygwth,” meddai Abdullah.
“Mae’r Taliban wedi dweud wrth weithwyr y llywodraeth fod ganddynt amnesty os ydynt yn ildio.
“Fe wnes i dderbyn lluniau gan fy mrodyr o filwyr y Taliban o flaen ein tŷ, ar y stryd… mae ganddynt reolaeth, bellach.”
Anobaith Affganistan
Ar Awst 15 fe syrthiodd y brifddinas, Kabul i feddiant y Taliban ac ers hynny mae miloedd yn ceisio ffoi o’u mamwlad mewn anobaith.
Mae Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y Deyrnas Unedig eleni, a hyd at 20,000 yn y tymor hir, ac mae Mark Drakeford hefyd wedi dweud bod Cymru yn ‘noddfa’ i ffoaduriaid o Affganistan.
Ond mae’r boen yn ormod i Abdullah ac mae’n erfyn ar bobl i dalu sylw i’r newyddion i geisio deall realiti’r sefyllfa.
“Mae miliynau o bobl yn ofni, rydyn ni gyd wedi gweld y lluniau o’r bobl yna yn syrthio o’r awyren,” meddai.
“Dyma yw’r realiti yn Affganistan a dyma beth mae pobl sydd mor anobeithiol yn barod i’w wneud.”
“Hoffwn i weld os gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth hyd yn oed fel bod modd dod â nhw i Gymru er mwyn eu bod yn ddiogel.
“Hyd yn oed os yw hynny dros dro, yn amodol os oes angen, ac os bydd pethau byth yn gwella fe allant ddychwelyd.”
Y Sefyllfa Filwrol
Ers i’r Unol Daleithiau lofnodi cytundeb heddwch gyda’r Taliban yn Chwefror 2020 mae milwyr fesul dipyn wedi bod yn gadael y wlad.
Mae’r penderfyniad i ymadael ag Affganistan wedi cael ei ddisgrifio’n ddiweddar gan gyn brif weinidog Prydain, Tony Blair, fel un ffôl.
Mae pwysau ar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, i gadw lluoedd America yn y wlad y tu hwnt i 31 Awst er mwyn caniatáu rhagor o amser i gludo pobl o Affganistan – er bod y Taliban wedi gwrthod yr posibiliad.
Yn ôl un cyn-filwr fu’n brwydro yn erbyn y Taliban, mae’r sefyllfa yn “shambls llwyr”.
“Mae yna lot o gyn-filwyr fel fi yn teimlo’n dorcalonnus wrth i’r sefyllfa ddatblygu dros yr wythnosau diwethaf.
“Mae’r modd rydyn ni wedi tynnu allan yn shambls llwyr ac mae’r gwleidyddion wedi’n siomi ni fel dinasyddion,” meddai Andrew Brown sy’n gyn-filwr yng Ngwarchodlu Cymreig Byddin Prydain.
Mae’n honni bod blynyddoedd o wasanaeth ac aberth gan ei gyd-filwyr yn cael eu tanseilio gyda’r modd y mae cynghreiriaid y gorllewin wedi tynnu milwyr allan o’r wlad.
“Bu farw 457 o filwyr Prydeinig yno, pa fath o neges mae tynnu allan o Affganistan yn ei chyfleu iddyn nhw sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth dros eu gwlad?” meddai.
“Mae miloedd o bobl wedi anafu a chymaint o filwyr rwy’n adnabod gyda phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i frwydro yn erbyn y Taliban.”
Bu Mr Brown yn brwydro yng Ngogledd Iwerddon a Bosnia yn ystod ei yrfa 23 mlynedd o hyd ond mae ei atgofion am Affganistan yn aros yn amrwd yn y cof.
“Fe fues i benben gyda’r bobl hyn [y Taliban] ac maen nhw’n bobl beryglus, gyfrwys sydd â dyfalbarhad aruthrol.
“Dw i’n cofio deffro bob bore ac roedd fy stumog i’n troi, yn nerfus o feddwl beth fyddai’n digwydd y diwrnod hwnnw.
“Roedden nhw’n ymladd hyd yr eithaf ac er gwneud hynny gyda mewn sandalau a dillad carpiog roedden nhw’n bobl ddewr a chryf.
“Mae angen i’n gwleidyddion edrych ar eu hunain ac ar yr hyn sydd wedi datblygu dros yr wythnosau diwethaf.
“Mae gen i ofn mai codi pais ar ôl pisho mae ein gwleidyddion yn gwneud wrth helpu’r sawl sy’n ceisio ffoi ar hyn o bryd.”
Cynghorau Sir yn estyn croeso
Mae’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru’n ceisio sicrhau lloches i’r sawl sy’n cyrraedd o Affganistan.
Eisoes mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi croesawu 3 theulu sy’n gyfanswm o 15 person.
Mae Wrecsam wedi cytuno i gartrefi 10 teulu tra bod cynghorau Powys ac Abertawe wedi addo cynnig cartref i dri theulu.
Ond yn ôl Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, mae angen poeni am faint o gyllid fydd ar gael i gynghorau sir i ddarparu llety i frodorion Affganistan.
“Pan fydd pobl yn cyrraedd Prydain, faint o arian yn ychwanegol fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu ar gyfer awdurdodau lleol i fedru cartrefi pobl?” gofynna.
“Does dim tai cymdeithasol ar gael yng Ngwynedd, y Gymru wledig, a nifer o ardaloedd eraill ar draws Cymru, felly sut rydyn ni’n bwriadu cartrefu’r bobl yma?
“Oes rhaid inni fynd i’r sector preifat? Wel, dydy tai yn y sector preifat ddim ar gael chwaith.”
Triniaeth menywod o dan y Taliban
Yn dilyn goresgyniad y Taliban mae yna amheuon cryf y bydd hawliau menywod yn cymryd camau sylweddol am yn ôl.
Ers ymyrraeth y gorllewin ugain mlynedd yn ôl mae menywod yno wedi derbyn addysg mewn ysgolion a phrifysgolion, ond mae yna bellach ofid y bydd y datblygiadau hyn yn llithro yn ôl.
“Maen nhw [y Taliban] yn grŵp ceidwadol ac yn gyfyng iawn yn eu dehongliad o’r Quran ac maen nhw’n ddrwg-enwog am eu triniaeth o fenywod,” meddai Liz Saville Roberts.
“Rydyn ni wedi clywed am fenywod yn llosgi eu tystysgrifau addysg mewn ofn oherwydd dydyn nhw ddim am unrhyw dystiolaeth eu bod wedi derbyn addysg.
“Ac mae hynny’n broblem oherwydd fe fydd nifer wedi llosgi eu dogfennau adnabod er mwyn diogelu eu hunain.
“Ond mae hynny’n broblem gan nad oes gyda nhw ddim byd i brofi i’r Swyddfa Gartref ym Mhrydain ei bod nhw angen dod o Affganistan.
“Bydd yn rhaid i’r Swyddfa Gartref droedio llwybr gofalus iawn drwy beidio gadael terfysgwyr i mewn ond bydd yna bobl anghenus iawn sydd heb dystiolaeth i brofi pwy ydan nhw.
Dywedodd y Swyddfa Gartref y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i fenywod, merched, a lleiafrifoedd crefyddol a lleiafrifoedd eraill.
Sefyllfa sobreiddiol
Yn yr oes ddigidol mae’n bosib gweld y lluniau o bobl yn ceisio ffoi o’i mamwlad drwy sgrin ffôn, yng nghledr ein llaw.
“Mae’r byd yn gallu gweld beth sy’n digwydd yno, sy’n wahanol i 20 mlynedd yn ôl,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae hynny’n drawiadol o wahanol… fod y person cyffredin yn gallu gweld yr erchyllterau hyn ar ffôn symudol, sy’n amlygu’r sefyllfa’n foel yno.”
Ond i Abdullah, proses boenus yw gwylio’r newyddion ac mae’r aros rhwng y galwadau ffôn prin, yn gobeithio y bydd ei deulu’n cael ymadael neu ryw ddydd, yn anodd.
“Dwi yma ym Mhrydain ac maen nhw yn Affganistan ac rwy’n teimlo mor, mor flin drostyn nhw,” meddai Abdullah.
“Rydw i am weld nhw yma yn ddiogel.”