Mae arweinydd Cyngor Cernyw wedi galw am ddatganoli pellach i ddod i’r afael â’r broblem ail gartrefi yn y sir.

Dywedodd Linda Taylor bod y cyngor wedi datgan diddordeb mewn sicrhau statws unigryw i’r sir gyda’r llywodraeth.

Ers 2015, mae Cyngor Sir Cernyw wedi gweld peth datganoli sy’n cynnwys grymoedd dros drafnidiaeth, sgiliau a dosbarthiad cyllid.

Mae’r awdurdod Ceidwadol presennol yn galw am ragor o reolaeth dros adeiladu a chynllunio, yn ogystal â threthi i reoli twristiaeth a thai haf yn yr ardal.

Maen nhw hefyd eisiau sefydlu porthladd rhydd yn y sir a buddsoddi rhagor o arian mewn technoleg wyrdd.

Cydraddoli

Dywedodd yr arweinydd Linda Taylor, o’r blaid Geidwadol, fod ymwelwyr i’r sir yn dod yno gan “feddwl bod pawb yn byw bywyd delfrydol.”

“Y realiti anodd yw bod pawb ddim,” meddai.

“Un o fy ymrwymiadau yw parhau ar yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud, sef cydraddoli pethau yng Nghernyw fel bod pawb yn cael cyfle.”