Fe wnaeth disgyblion difreintiedig fwyta llai o ffrwythau a llysiau a gwneud llai o ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo.
Fe wnaethon nhw hefyd fwyta mwy o fwyd tecawê.
Dyna rai o brif gasgliadau ymchwil gan Brifysgol Abertawe ynglyn â’r effaith mawr y mae strwythur diwrnod ysgol yn ei gael ar ddeiat plant.
Arhosodd y rhan fwyaf o ddisgyblion adref o fis Mawrth i fis Mehefin 2020 ac eto ar ddechrau 2021 cyfyngiadau Covid-19.
Daw’r ymchwil yn dilyn arolwg i blant 8 i 11 oed mewn ysgolion cynradd yng Nghymru ynghylch eu hiechyd a’u lles yn ystod y cyfnod clo cyntaf, o fis Ebrill i fis Mehefin 2020.
Ar y cyfan roedd plant yn teimlo bod eu lles, cwsg a hapusrwydd gyda’u bywyd teuluol yn well o’i gymharu ag arolygon tebyg yn y ddwy flynedd flaenorol.
Fodd bynnag, roedd plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau.
Ymarfer corff
Dywedodd 45% o blant a gafodd brydau ysgol am ddim eu bod wedi cael 5 neu fwy o brydau oedd yn cynnwys llysiau neu ffrwyth y diwrnod cyn cwblhau’r arolwg ar-lein.
Mae hyn yn cymharu â 69% o blant nad oeddent yn cael prydau ysgol am ddim – bwlch sy’n fwy nag mewn blynyddoedd blaenorol.
Nododd plant mwy difreintiedig hefyd ostyngiad mewn ymarfer corff, pan oedd y niferoedd rhwng y disgyblion yn debyg yn 2019.
Yn ôl y gwyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff Dr Kelly Mackintosh mae’n pwysleisio er nad yw plant yn fwy tebygol o gael eu heintio gan Covid-19 fe all iechyd bobl ifanc gael ei effeithio gan sgil effeithiau a phatrwm bywyd y pandemig.
Bywiog
“Bydd y prosiect hwn yn gwella ein dealltwriaeth yn sylweddol o effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc ac yn ein helpu i roi cyfarwyddyd ynghylch pa strategaethau y mae eu hangen i leihau’r effeithiau hyn, ar hyn o bryd ac yn y tymor hwy,” meddai Dr Mackintosh.
“Rydym am ddefnyddio’r canlyniadau i lywio strategaethau i hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc yng nghyd-destun materion ehangach sy’n gysylltiedig â Covid-19.
“Mae diffyg gweithgarwch corfforol yn her fawr i iechyd y cyhoedd yn yr Unfed Ganrif ar Hugain a hynny cyn i goronafeirws daro, felly ni ellir gorbwysleisio’r broblem hon a’i goblygiadau i’r dyfodol.”
Mae’r ymchwilwyr yn datgan bod pryder cynyddol y gall y patrymau byw presennol o ganlyniad i’r pandemig gael eu gwreiddio mewn plant a phobl ifanc gan golli’r arfer o fod yn gorfforol fywiog.
Bydd astudiaeth Prifysgol Abertawe yn dechrau monitro gweithgarwch corfforol pobl ifanc yng Nghymru rhwng 8 ac 16 oed dros y flwyddyn nesaf.