Mae yna rybuddion y gallai ymosodiad terfysgol gael ei lansio ar Kabul o fewn oriau.
Dywedodd Gweinidog y Lluoedd Arfog, James Heappey bod “adroddiadau credadwy iawn” o fygythiad sydd “ar fin digwydd” ym maes awyr Kabul.
Galwodd ar y rhai sy’n ciwio y tu allan i Faes Awyr Rhyngwladol Hamid Karzai i symud tuag at ddiogelwch yn sgil pryderon ynghylch ymosodiad gan y Wladwriaeth Islamaidd yn Affghanistan, neu Isis-K.
Mae’r bygythiad yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr ymgyrch i helpu pobol i ffoi o’r wlad, sydd wedi cael ei gipio gan y Taliban.
Dywedodd James Heappey wrth BBC Breakfast: “Mae hygrededd yr adroddiadau wedi cyrraedd y cam lle credwn fod ymosodiad marwol iawn yn bosibl yn Kabul.
“Ac, o ganlyniad, rydym wedi gorfod newid y cyngor teithio i gynghori pobol i beidio â dod i’r maes awyr, ac yn wir i symud i ffwrdd o’r maes awyr, dod o hyd i le diogel ac aros am gyfarwyddyd pellach.”
Dieflig
Dywedodd wrth radio LBC y gallai’r ymosodiad posibl ddod o fewn “oriau”, gan ychwanegu: “Nid wyf yn credu y dylai unrhyw un gael ei synnu gan hyn – mae Daesh, neu Wladwriaeth Islamaidd, yn euog o bob math o weithredoedd dieflig.”
Mae’r rhybudd i gadw draw o faes awyr Kabul yn newid amlwg o wythnos yn ôl pan ddywedodd Boris Johnson fod y sefyllfa wedi bod yn sefydlogi.
Llwyddodd wyth awyren yr Awyrlu Brenhinol i gludo 1,988 o bobol o Kabul o fewn y 24 awr ddiwethaf, meddai James Heappey, gan ddod a’r cyfanswm ers i’r Taliban gymryd drosodd i 12,279.
Dywedodd fod gan Brydain 11 yn rhagor o deithiau hedfan wedi’u trefnu allan o Kabul ar gyfer dydd Iau (26 Awst) ond gwrthododd ddweud ai dyna fydd diwedd yr ymgyrch, gan gyfeirio at ddiogelwch milwyr ar lawr gwlad.
Mae’r Llywodraeth eisoes wedi dweud y bydd yn cynyddu’r gefnogaeth ddiplomyddol mewn gwledydd cyfagos i brosesu ffoaduriaid sy’n dianc o Affganistan.
Ddydd Mercher (25 Awst), y gred yw bod bron i 2,000 o bobol sy’n gymwys o dan bolisi adleoli a chymorth Affganistan yn parhau i fod yn y wlad.
Ond dywedodd James Heappey bod y nifer sy’n weddill bellach “o bosib yn hanner” yr amcangyfrif blaenorol.
“Ddim yn saff”
Dywedodd Ffrainc y byddai’n atal ei ymgyrchoedd gwacáu ddydd Gwener (27 Awst) tra bod Denmarc yn dweud fod ei hediad olaf eisoes wedi gadael maes awyr Kabul.
Dywedodd Prif Weinidog Ffrainc, Jean Castex, wrth RTL radio: “O nos yfory ymlaen, ni allwn gludo pobol o faes awyr Kabul”.
Rhybuddiodd gweinidog amddiffyn Denmarc Trine Bramsen yn blwmp ac yn blaen: “Nid yw bellach yn ddiogel i hedfan i mewn neu allan o Kabul.”
Mae awyren olaf Denmarc, sy’n cario 90 o bobl ynghyd â milwyr a diplomyddion, wedi gadael Kabul.
Eisoes, mae Gwlad Pwyl a Gwlad Belg wedi dod â’u hymgyrchoedd gwacáu o Affghanistan i ben.